Diogelwch cymunedol

 

cyngor moncyngor gwynedd

 

Mae diogelwch cymunedol yn fenter a rennir rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd. Grŵp o sefydliadau yw’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol sy'n gweithio gyda'i gilydd i edrych ar y ffordd orau i ni fynd i'r afael â throsedd ac anhrefn ar draws y ddwy sir. Mae’r gofyniad i gael partneriaeth o’r fath ar lefel leol wedi’i ymgorffori yn y gyfraith, yn Neddf Trosedd ac Anhrefn 1998. Mae gan nifer o sefydliadau rôl i’w chwarae o fewn y bartneriaeth, gan gynnwys yr awdurdod lleol, yr heddlu, y gwasanaeth prawf, y gwasanaeth tân ac achub a’r bwrdd iechyd. 


Cynllun Lleol Diogelwch Cymunedol 2023 - 24

Dyletswydd Trais Difrifol

Pan fyddwch chi allan a oes yna ardaloedd lle nad ydych chi'n teimlo'n ddiogel ac yn mynd allan o'ch ffordd i'w hosgoi?

Defnyddiwch yr offeryn StreetSafe i ollwng pin a rhoi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru pam a ble

StreetSafe | Heddlu Gogledd Cymru

 

Gwasanaethau cymorth a chefnogaeth cam-drin domestig:

  • Rape Crisis

  • RASASC -

    Elusen gofrestredig sydd yn cynnig cymorth a chefnogaeth i bobl Gogledd Cymru sydd wedi dioddef unrhyw fath o drais rhywiol, yn ddiweddar neu yn y gorffennol.

  • Amethyst -
    Mae Amethyst yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol i ddynion, merched a phlant a ymosodwyd arnynt yn rhywiol un ai’n ddiweddar neu yn y gorffennol.

  • The Hideout  - 
    Galluogi plant a phobl ifanc ddeall beth yw trais yn y cartref, a sut i gymryd camau cadarnhaol.

  • BAWSO (Black Association of Women Step Out Ltd) - 

    Mae Bawso yn fudiad gwirfoddol Cymru gyfan. Maent yn darparu gwasanaethau arbenigol i ddioddefwyr, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig sy'n cael eu heffeithio neu sydd mewn perygl o Gam-drin Domestig a phob math o drais. Mae rhain yn cynnwys Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, Priodas dan Orfod, Trais ar Sail Anrhydedd a Masnachu Pobl.

  • Hourglass - Cefnogaeth i bobl hŷn

  • Gorwel -

    Gwasanaethau Trais yn y Cartref sydd yn darparu gwasanaeth i bawb o bob oedran i unrhyw ddioddefwr boed yn gamdriniaeth gorfforol, feddyliol neu rywiol. Mae’r gwasanaeth yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth gyfrinachol er mwyn galluogi ac annog unigolion wneud penderfyniadau a dewisiadau eu hunain am ei dyfodol.

    Lleoliadau:

  • Llangefni, 12 Ffordd Yr Efail, Hen Argraffdy, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7ER

    (Gwasanaeth galw i mewn)

    Ffôn: 01248 750 903

  • Blaenau Ffestiniog, 49 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, LL41 3AN

    Ffôn: 01766 830 878

  • Dolgellau, Derwydd, Heol y Dŵr, Dolgelau, Gwyneddd, LL40 1DD
    Ffôn:
    01341 422210 

  • Caernarfon, Caernarfon, Uned 7/8, Y Galeri, Caernarfon
    Ffôn: 
    0800 1112121

Trais a Chamdriniaeth Domestig 

Y diffiniad o gam-drin a thrais domestig ar draws llywodraethau'r DU yw:

"Unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau sy’n amlygu ymddygiad sy'n fygythiol neu'n rheoli, neu’n rheoli drwy orfodaeth, neu unrhyw drais neu gamdriniaeth rhwng pobl 16 oed neu’n hŷn sydd, neu sydd wedi bod, yn bartneriaid rhywiol, neu'n aelodau o deulu, ni waeth beth fo'u rhyw na'u rhywioldeb".

Mae sawl math gwahanol o gam-drin domestig. Ymhlith elfennau eraill, mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • rheoli drwy orfodaeth, cam-drin yn emosiynol / seicolegol

  • camdriniaeth gorfforol

  • camdriniaeth rywiol

  • camdriniaeth ariannol

  • aflonyddu a stelcio

Mae cam-drin domestig yn gallu cynnwys gwahanol fathau o ymddygiad hefyd sy’n ymddangos yn gymharol ddiniwed o’u hystyried fel digwyddiadau unigol. Os ydyn nhw’n rhan o batrwm o ymddygiad sy’n codi ofn, braw neu ofid, mae’n gamdriniaeth.

Ymddygiad cymhellol – Mae ymddygiad cymhellol yn weithred neu’n batrwm o weithrediadau o ymosod, bygythiadau, sarhad a chodi ofn, neu gamdriniaeth arall sy’n cael ei defnyddio i niweidio, i gosbi neu i ofni eu dioddefwr.

Ymddygiad o reoli – Mae ymddygiad o reoli yn ystod eang o weithredoedd wedi’u cynllunio i wneud unigol deimlo’n israddol a/neu’n ddibynnol gan eu harunigo o ffynonellau cefnogaeth, camddefnyddio eu hadnoddau a’u gallu er budd personol, eu hamddifadu o adnoddau angenrheidiol ar gyfer annibyniaeth, ymwrthedd a modd o ddianc, a rheoli eu bywyd bob dydd.

 

  • Poeni am gamdriniaeth rhywiol ar blentyn

    Mae’r llinell gymorth gyfrinachol Stop It Now! Yn lle diogel i unrhyw un drafod eu pryderon am gam-drin plant yn rhywiol a'i atal, gan gynnwys y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol. Mae yna hefyd adnoddau gan gynnwys ffilmiau byr ar gael sy'n anelu at hysbysu rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol am risgiau cam-drin plant yn rhywiol, sut i atal niwed rhag digwydd yn y lle cyntaf, a ble i gael help os oes rhywbeth eisoes wedi digwydd.

    Ffoniwch 0808 1000 900 neu ewch i parentsprotect.co.uk
    (Llinell gymorth ar agor ddydd Llun-ddydd Iau 9yb-9yp, dydd Gwener 9yb-5yp, ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc)

Mae Adolygiad Dynladdiad Domestig (DHR) yn adolygiad amlasiantaethol o'r amgylchiadau lle mae marwolaeth person 16 oed neu drosodd wedi, neu ymddengys ei fod wedi deillio o drais, cam-drin neu esgeulustod gan:

  • Person yr oedd ef neu hi yn perthyn iddo, neu yr oedd ef neu hi mewn perthynas bersonol agos ag ef; neu

  • Aelod o'r un cartref ag ef neu hi

Cafodd Adolygiadau Dynladdiadau Domestig (ADD) eu sefydlu’n statudol o dan adran 9 Deddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr, 2004 a daeth y ddarpariaeth honno i rym ar 13 Ebrill, 2011. Pwrpas ADD yw:

  • Penderfynu pa wersi sydd i'w dysgu o ddynladdiad domestig ynglŷn â'r ffordd y mae staff proffesiynol a sefydliadau lleol yn gweithio'n unigol ac ar y cyd i ddiogelu dioddefwyr;

  • Nodi'r gwersi hynny’n glir o fewn yr asiantaethau a rhyngddynt, sut mae eu gweithredu a beth yw’r amserlen ar gyfer gwneud hynny, a’r hyn y mae disgwyl iddo newid o ganlyniad

  • Defnyddio'r gwersi hynny yn ymatebion y gwasanaeth gan gynnwys newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau cenedlaethol a lleol fel bo'n briodol;

  • Atal trais a lladdiad domestig a gwella ymatebion gwasanaeth i bob dioddefwr trais a cham-driniaeth domestig a'u plant trwy ddatblygu dull aml-asiantaeth cyd gysylltiedig i sicrhau bod cam-drin domestig yn cael ei nodi ac ymateb yn effeithiol iddo cyn gynted â phosibl;

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn yn gyfrifol am sefydlu adolygiad yn yr ardal awdurdod leol hon.

 

Gwybodaeth ddefnyddiol gan Heddlu Gogledd Cymru am Llinellau Siriol.

Llinellau cyffuriau | Heddlu Gogledd Cymru (northwales.police.uk)

Llinellau Sirol

Mae Adran 26 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 yn gosod dyletswydd ar rai cyrff, wrth arfer eu swyddogaethau, i roi “sylw dyledus i’r angen i atal pobl rhag cael eu tynnu i derfysgaeth”. Nod y strategaeth Prevent yw lleihau'r bygythiad i'r DU o derfysgaeth trwy atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth.

Mae Prevent yn ymwneud â diogelu unigolion agored i niwed rhag cael eu radicaleiddio a'u tynnu i mewn i derfysgaeth, gan sicrhau eu bod yn cael cyngor a chefnogaeth briodol. Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd ac Ynys Môn yn goruchwylio cyflawni'r ddyletswydd Prevent yn yr ardal.

Darganfyddwch sut mae rhaglen Prevent yn cynnig cymorth i bobl sydd mewn perygl o ymwneud â therfysgaeth drwy radicaleiddio - Cliciwch yma i weld

Adnodd defnyddiol:

Act Early - gwefan bwrpasol gan yr heddlu wedi'i hanelu at deulu a ffrindiau unigolion a allai fod yn agored i niwed, gyda gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael ac arwyddion radicaleiddio.

(Ffoniwch 999 neu linell gymorth gwrthderfysgaeth yr heddlu ar 0800 789 321 i riportio bygythiad uniongyrchol i fywyd neu eiddo yn sgil gweithredoedd terfysgol.)

Cyngor a chefnogaeth ddefnyddiol i blant, pobl ifanc a rhieni

Ers 2006, mae 'Thinkuknow' wedi bod yn cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel drwy ddarparu addysg ynghylch cam-drin rhywiol a chamfanteisio'n rhywiol. Ei nod yw sicrhau fod gan bawb fynediad i'r wybodaeth ymarferol hon, gan gynnwys plant, pobl ifanc, eu rhieni a'u gofalwyr a'r bobl broffesiynol sy'n gweithio gyda nhw.

Awgrymiadau, cyngor ac adnoddau am e-ddiogelwch i helpu plant a phobl ifanc i gadw'n ddiogel ar-lein.

Helpu rhieni i gadw eu plant yn ddiogel ar-lein

Cadw'ch plentyn yn ddiogel ar-lein

Awgrymiadau a chyngor i gadw'ch plant yn ddiogel ar rwydweithiau cymdeithasol, apiau a gemau. Fel y gall eich plentyn wneud y penderfyniadau iawn gyda'r gefnogaeth iawn ar-lein.

Mae CEOP yno i gadw plant yn ddiogel rhag cam-drin rhywiol a meithrin ar-lein (grooming).

- Ydych chi'n poeni am gam-drin rhywiol ar-lein neu'r ffordd y mae rhywun wedi bod yn cyfathrebu gyda chi ar-lein?

- Ydych chi'n poeni bod eich plentyn yn cael ei feithrin (grooming) ar-lein neu bod rhywun yn camfanteisio'n rhywiol arno/arni?

Dylech ddweud am eich pryderon wrth un o Gynghorwyr Diogelu Plant CEOP.

Dyma'r Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol 2020-24 gan y Bwrdd Cynllunio Ardal Gogledd Cymru.

  •  Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol 2020-24.

Mae’r Bartneriaeth wedi datblygu Ymgyrch Ymwybyddiaeth Cocên. Mae llawer o bobl yn gweld defnydd hamdden o gocên fel trosedd heb ddioddefwyr. Mae ein hymgyrch yn tynnu sylw at yr effaith ehangach ar gymunedau a theuluoedd o ran camfanteisio, iechyd a lles, a throsedd. 

Mae posteri ar gael i’w lawrlwytho yma:

 

AGRO (Mudiad Adfer Môn a Gwynedd)

Sefydliad gwirfoddol, wedi ei redeg gan bobl mewn adferiad ar gyfer pobl mewn adferiad. Pwrpas AGRO yw hyrwyddo adferiad pobl sydd â phroblemau alcohol a chyffuriau eraill trwy weithgaredd, gan gefnogi teuluoedd, codi ymwybyddiaeth, chwalu stigma a darparu gwybodaeth yn Ynys Môn a Gwynedd.

Cyswllt: www.agro-cymru.org.uk 

 

Be di’r Sgôr?

Mae’r gwasanaeth yma ar gael i bob person ifanc yn y ddwy Sir. Darpariaeth yn cynnig gwybodaeth, cyngor, gwaith wedi ei dargedu a gwaith arbenigol. Gellir hunan gyfeirio i’r gwasanaeth. Gall riant gyfeirio hefyd ond mae’n rhaid i’r unigolyn gytuno i gael ei gyfeirio a gweithio gyda’r Gwasanaeth.

Cyswllt:

 

Caniad

Gwasanaeth Rhanbarthol sydd yn gweithio gyda defnyddwyr gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a iechyd meddwl er mwyn sicrhau i’w llais cael ei clywed a cyfrannu tuag at bolisïau/datblygu gwasanaethau ayyb. 

Cyswllt:

 

CAIS

Ar gael dros y Gogledd, mae’r Wasanaeth yma ar gyfer unigolion ble mae camddefnydd alcohol a/neu gyffuriau yn broblem, neu pryd mae defnydd alcohol neu gyffuriau perthynas agos i chi yn cael effaith arnoch. Mae modd hunan gyfeirio i’r Gwasanaeth yma ar lein ar wefan CAIS neu drwy ffonio. 

Cyswllt:

 

OK Rehab

Mae OK Rehab yn yn arbenigo mewn rehab cyffuriau ac alcohol, a thriniaeth dibyniaeth. Maent yn gweithio mewn partneriaeth gyda dros 140 o sefydliadau ar draws y DU a dramor.

Cyswllt:

 

DAN 24/7

Llinell Gymorth alcohol a cyffuriau cyfrinachol ac am ddim, ni fydd y rhif ffôn yn ymddangos ar fil wedi eitemeiddio eich cartref. Cymorth/sgwrs 24 awr y dydd 365 diwrnod y flwyddyn. Gwybodaeth am wasanaethau/cyffuriau ayyb. ar gael ar y wefan.

Cyswllt:

 

NACOA

Llinell Gymorth cyfrinachol ac am ddim ar gyfer plant o bob oed sydd angen cymorth a sgwrs oherwydd gôr yfed un o’i rhieni/gofalwyr. Ni fydd y rhif ffôn yn ymddangos ar fil wedi eitemeiddio eich cartref.

Cyswllt:

 

North Wales Recovery Communities (Penrhyn House)

Yn cefnogi unigolion i sefydlu Adferiad o gam-drin sylweddau trwy ddarparu tai ar sail ymatal a rhaglenni therapiwtig mynediad agored.

Cyswllt:

Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol Gogledd Cymru

Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol Gogledd Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)

 

Cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 

Cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2019 i 2022 | LLYW.CYMRU

 

Caniad

Mae’r Bwrdd Cynllunio Ardal, yn croesawu ymgysylltiad defnyddwyr gwasanaeth i, dylanwadu ar wneud penderfyniadau, a chydgynhyrchu i helpu i ddylanwadu, gwneud penderfyniadau a weithredir o fewn y ddwy brif strategaeth. 

Cartref Tudalen enw Caniad

 

  

Cynlluniau gwarchod cymdogaeth leol

Hoffwch gael gwybod mwy am eich grŵp gwarchod cymdogaeth leol ond ddim yn gwybod sut i’w cyrraedd? Yna ymwelwch â www.ourwatch.org.uk a rhowch eich cod post i ddod o hyd i’r holl gynlluniau sydd wedi cofrestru ar y wefan yn eich ardal chi.

Beth yw Troseddau Casineb?

Troseddau casineb yw troseddau sydd wedi’u cyflawni yn erbyn unigolyn oherwydd ei anabledd, hunaniaeth-rhyw, hil, crefydd neu gred, neu ei gyfeiriadedd rhywiol. Dylid adrodd am droseddau o'r fath i’r Heddlu.

I gael cymorth ac i adrodd am drosedd casineb ar-lein, ewch i wefan Cefnogi Dioddefwyr a llenwch eu Ffurflen Adrodd Cyfrinachol.

Ffoniwch 999 os ydych yn adrodd am drosedd sy’n digwydd ar y pryd neu os yw rhywun mewn perygl uniongyrchol. Os nad yw’r drosedd yn argyfwng, ffoniwch 101.

Rhagor o Wybodaeth:

Mae atal troseddau yn gyfrifoldeb ar bawb. Mae cyngor a gwybodaeth sy’n ddefnyddiol i helpu lleihau ac atal troseddau:

 

Cofrestr eiddo genedlaethol

Cofrestrwch eich pethau gwerthfawr am ddim ar Gofrestr Eiddo Genedlaethol y DU. Mae Immobilise yn gofrestr eiddo rhad ac am ddim sy’n creu cofnod diogel o’ch eiddo personol megis gliniaduron a ffonau symudol. Rhagor o wybodaeth


Cofrestru eich beic

Wrth gofrestru a marcio eich beic, mae’r tebygolrwydd ohono’n cael ei ddwyn yn llawer llai. Rhagor o wybodaeth

 

Beth yw’r Sbardun Cymunedol?

Mae’r Sbardun Cymunedol yn broses sydd yn eich galluogi chi (neu rhywun sydd yn gweithredu ar eich rhan) i ofyn i ni fel Cyngor i adolygu ein hymatebion i gwynion yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r 3 meini prawf canlynol cael eu bodloni er mwyn i gais gael ei wneud: 

  1. Cysylltwch â ni os ydych wedi cwyno i’r Cyngor, Heddlu, Bwrdd Iechyd neu Ddarparwr Cofrestredig Tai Cymdeithasol, am o leiaf 3 achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol dros gyfnod o 6 mis.

  2. Rhaid bod pob digwyddiad wedi ei adrodd oddi fewn mis o fod wedi cymryd lle, ac yr ydych yn credu nad yw eich cwyn wedi cael sylw priodol, neu nad does unrhyw weithred wedi cymryd lle.

  3. Mae'r cais i ddefnyddio'r sbardun Cymunedol yn cael ei wneud o fewn 6 mis o'r adroddiad ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Ni ellir defnyddio’r sbardun i adrodd am droseddau cyffredinol, gan gynnwys troseddau casineb neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.


Beth sy’n digwydd nesaf?

Ar ôl derbyn atgyfeiriad Sbardun Cymunedol, bydd adrannau perthnasol o fewn y Cyngor a sefydliadau partner megis Heddlu Gogledd Cymru yn dod at ei gilydd i drafod.  Byddant yn edrych ar y materion yr ydych wedi’u hadrodd ar y cyd ac ar unrhyw gamau gweithredu a gymerwyd er mwyn pennu a oedd y camau hynny’n ddigonol yn seiliedig ar ddisgwyliadau ac amserlenni rhesymol.  Gall y panel adolygu wneud argymhellion i gymryd camau pellach er mwyn ceisio datrys y broblem.


Sut mae gwneud cais?

Os ydych yn penderfynu gwneud cais am Sbardun Cymunedol bydd angen i chi roi’r manylion canlynol:

  • dyddiad pob cwyn a gyflwynoch;

  • manylion ble y gwnaethoch gwyno (enw, sefydliad a/neu gyfeirnod)

  • gwybodaeth ynglŷn â’r ymddygiad gwrthgymdeithasol


Cwblhewch y ffurflen gais:

Ffurflen gais - sbardun cymudedol

a'i dychwelyd i:  

  • Sbardun Cymunedol, Swyddfa Diogelwch Cymunedol, Swyddfeydd y Cyngor, Stryd Y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch:

  • 01286 679927 

Mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn nodi bod yn rhaid i ni gyhoeddi’r wybodaeth ganlynol ar gyfer y 12 mis blaenorol:

Nifer y ceisiadau am Adolygiadau Achos YGG a dderbyniwyd: 0

Nifer o weithiau na chyrhaeddwyd y trothwy ar gyfer adolygiad: 0

Nifer yr adolygiadau o achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol a gynhaliwyd: 0

Nifer yr adolygiadau o achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol a arweiniodd at wneud argymhellion: 0

 

'Crimestoppers'

Rhowch wybod am ddigwyddiad ar-lein neu drwy ffonio Crimestoppers yn ddi-enw ar 0800 555 111.

Elusen annibynnol yw Crimestoppers sy’n cynorthwyo gwasanaethau gorfodi’r gyfraith i leoli troseddwyr a helpu datrys troseddau. Nid oes rhaid i chi roi eich enw na unrhyw fanylion personol ac ni fyddent yn olrhain galwadau neu olrhain cyfeiriadau IP.

Rhowch wybodaeth ddienw ar-lein yma

 

Heddlu Gogledd Cymru

Adrodd  am ddigwyddiad (riportio) difrys neu di-argyfwng i Heddlu Gogledd Cymru ar-lein.

Cofiwch deialwch 999 bob tro mewn argyfwng.

Rhowch wybodaeth ar-lein yma

 

Galwadau 999 tawel

Gwybodaeth am sut i wneud galwad 999 tawel i’r Heddlu:

Dylid adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn uniongyrchol i'r gwasanaeth sy'n gyfrifol am ymdrin â'r mater.

Er enghraifft, gellir gwneud cwynion am:

  • gŵn yn baeddu

  • cerbydau wedi'u gadael

  • tipio anghyfreithlon

  • neu niwsans sŵn

ar-lein neu drwy gysylltu â'r awdurdod lleol perthnasol ar:

  • Cyngor Gwynedd: 01766 771000 

  • Cyngor Sir Ynys Môn: 01248 750 057

Cofiwch nad yw pethau megis sŵn bywyd bob dydd a materion parcio yn cyfrif fel ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dylai digwyddiadau o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol megis niwsans cyhoeddus, anhrefn cyhoeddus, ymddygiad bygythiol, bod yn feddw ac yn afreolus, cam-drin sylweddau a fandaliaeth eu hadrodd yn uniongyrchol i Heddlu Gogledd Cymru ar 101, neu os yw'n argyfwng, dylech alw 999 yn syth.

O dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, bydd Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn disodli’r Gorchmynion Mannau Cyhoeddus Dynodedig cyfredol.

Mae'r gorchymyn yn rhoi hawl i Swyddog Heddlu mewn iwnifform herio ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol, hynny yw, gall y swyddog wneud cais i'r unigolyn atafaelu'r alcohol, a phe byddai'r unigolyn yn gwrthod, gallai arwain at gael ei arestio, yn y mannau dynodedig a ganlyn:

Gwynedd

GDMC Bangor Estynedig 

GDMC Bangor 2019 

GORCHYMYN DIOGELU MANNAU CYHOEDDUS (PSPO) BANGOR - ESTYNEDIG

Fel preswylydd yn yr ardal mae'n debygol y byddwch yn ymwybodol o faterion ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n amgylchynu yfwyr stryd a phobl ifanc yn ymgynnull ac yn achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Mae Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Sir Gwynedd ac asiantaethau partner wedi ceisio dros y blynyddoedd i ddod o hyd i ateb i'r broblem hon i liniaru'r aflonyddwch a'r effaith niweidiol ar ansawdd bywyd trigolion. Ym mis Rhagfyr 2019 cyflwynwyd Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 i geisio mynd i’r afael â’r materion hyn. Mae PSPOs yn ddilys am 3 blynedd ond gellir eu hymestyn.

 

Cytunwyd gyda Heddlu Gogledd Cymru bod angen parhaus i’r Gorchymyn barhau mewn grym yn yr ardal ac felly mae wedi’i ymestyn am 3 blynedd arall tan 30 Tachwedd 2025.

Mae torri amodau yn drosedd ac ymdrinnir ag ef trwy Hysbysiad Cosb Benodedig neu erlyniad trwy'r Llys Ynadon.

Dywedodd lefarydd o Heddlu Gogledd Cymru:

“Mae'r Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus sydd mewn lle ar gyfer y Stryd Fawr yn Fangor yn arf hanfodol i blismona'r ardal ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ers i'r gorchymyn gael ei awdurdodi am y tro cyntaf yn 2019 mae wedi profi i gael effaith positif ar drigolion a busnesau lleol ar y Stryd Fawr a'r ardaloedd cyfagos. Mae Tîm Plismona'r ardal yn croesawu'r penderfyniad i ymestyn y gorchymyn am 3 blynedd arall; gan y bydd hyn yn cynorthwyo'r tîm wrth ddelio â'r unigolion sy'n ddyfal ar ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol a chael effaith niweidiol ar y gymuned.”

Cyngor Gwynedd & Heddlu Gogledd Cymru Tachwedd 2022

 

Bydd y gorchymyn yn weithredol hyd at 3 blynedd yn amodol ar arolygiad. 

 

Mae Adferiad Recovery yn falch iawn o gyhoeddi ei fod wedi cael cyllid gan GambleAware i ddatblygu Hwb Addysg Gamblo yng Nghymru, gan ganolbwyntio'n bwysig ar atal niwed i bobl ifanc rhag gamblo.

Mae GambleAware wedi buddsoddi £2.5m yn y rhaglen addysg atal niwed gamblo ledled Cymru a Lloegr.

Yn dilyn peilot llwyddiannus yn yr Alban, bydd y grant hwn yn cael ei rannu rhwng Canolfannau Cymru a Lloegr, gyda GamCare, mewn partneriaeth â YGAM, ARA, Aquarius, Beacon, Breakeven a Neca yn arwain y prosiect yn Lloegr, ac Adferiad Recovery yn ymgymryd â'r gwaith yng Nghymru. Dyma'r ail grant a ddyfarnwyd i Adferiad Recovery gan GambleAware yn ystod y flwyddyn diwethaf yn dilyn grant a ddyfarnwyd i ni ym mis Ionawr ar gyfer prosiect peilot i ymestyn darpariaeth adsefydlu preswyl ar gyfer anhwylderau gamblo.

gall pobl sydd â phroblemau gamblo a gallant aros yn Parkland Place yn dilyn detox yn Hafan Wen i gael eu hadsefydlu am ddim - arian ymwybodol o gambl am 3 blynedd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: info@adferiad.org

NWRC- mae pob un o'n rhaglen diwrnod strwythuredig yn hygyrch i unrhyw un sydd ag unrhyw broblemau dibyniaeth gan gynnwys gamblo.

Rydym yn dod o hyd i lawer o'n cleientiaid â phroblemau gamblo sy'n eilradd i fod yna gyffur sylfaenol o ddewis.

Mae NWRC yn gobeithio cyflwyno cymrodoriaeth Gamblers Anonymous yn fuan am yr union reswm hwn.

Mae cyfarfod GA ym Mae Colwyn:

Colwyn

Prif

Y Fron Community Centre

8-10 Ffordd Bugail, Colwyn Bay, LL29 8TN

Dydd Iau 19:30 - 21:30

Pan fydd aelod o'r teulu yn cael ei garcharu, mae plant yn aml yn profi pwysau sylweddol a straen emosiynol. Gall y sefyllfa hon arwain at deimladau o arwahanrwydd o fewn ysgolion, a mae’r tebygolrwydd o wynebu canlyniadau negyddol yn cynyddu, all hyn gael effaith andwyol ar eu dyfodol. Mae hyn hefyd yn effeithio ar blant a theuluoedd sydd â rhiant neu aelod o'r teulu yn ymwneud â rhan arall o'r system cyfiawnder troseddol, nid yn y carchar yn unig. Nod prosiect FABI yw gwella dealltwriaeth o'r heriau a wynebir gan y teuluoedd hyn, hyrwyddo ymdrechion ataliol, a darparu adnoddau penodol a chefnogol heb stigmateiddio.

 

Teuluoedd yr Effeithir Arnynt gan Garchariad (FABI) yng Ngogledd Cymru