Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

Beth yw gwaith y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid?

  • cyd-weithio â phobl ifanc rhwng 10 a 17 oed sydd wedi troseddu, neu mewn peryg o droseddu, yna 
  • eu hasesu a chynnig cymorth.

Mae'r Gwasanaeth yn cynnwys staff Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf ac Iechyd. Rydym hefyd yn cydweithio'n agos gydag asiantaethau eraill sy'n gallu helpu.

Mwy o wybodaeth

 

Ein prif nod yw atal troseddu.

Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn yma ar gyfer

  • Plant a phobl ifanc
  • Rhieni a hofalwyr
  • Dioddefwyr troseddau gan bobl ifanc 

 

Cysylltu â ni

Ffôn:
01248 679 183

E-bost:
youthjusticeservices@gwynedd.llyw.cymru

Cyfeiriad:
Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn,
Swyddfa Menai
Glan y Môr,
Felinheli,
LL56 4RQ

Oriau agor y swyddfa yn Felinheli:

  • Dydd Llun i ddydd Gwener: 09:00 a.m. – 5:00 p.m.

 

Plant a phobl ifanc

Bydd plentyn neu berson ifanc sydd wedi troseddu yn cael eu cyfeirio atom ni gan yr Heddlu neu'r Llysoedd.

Ein nod ni wedyn fydd atal troseddu pellach.

Y cam cyntaf yw asesu. Byddwn yn sgwrsio gyda'r person ifanc a dod i gasgliad sut fedrwn eu helpu cadw allan o drafferthion eto. Byddwn hefyd yn sgwrsio â'u rhieni/gofalwyr ac asiantaethau eraill. 

Mae pob cynllun ywedi ei deilwra i'r unigolyn yn dilyn asesiad. 

 

Panel Cymunedol

Gwirfoddolwyr yw aelodau’r panel cymunedol

Bwriad y panel yw cytuno ar ffyrdd o:

  • leihau'r risg o ail droseddu a newid ymddygiad y troseddwr
  • rhoi cyfle i'r person ifanc wneud yn iawn am eu trosedd

Mae'r Panel yn helpu gyda:

  • lleihau troseddu yn eich ardal chi
  • rhoi tawelwch meddwl i bobl yn eu cymuned
  • sicrhau fod llais dioddefwyr yn cael ei glywed
  • gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc

Awydd ymuno?

Rhaid i aelodau'r panel fod yn o leiaf 21 mlwydd oed.

Does dim angen cymwysterau na phrofiad. Ni fydd record droseddol yn eich gwahardd rhag bod yn aelod. Bydd GCIGM yn ei hyfforddi a byddwn yn eich cefnogi drwy gynnig hyfforddiant parhaus trwy gydol eich amser yn gwirfoddoli.

Rhaid i chi gytuno i wasanaethu am o leiaf dwy flynedd.

Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

 

Rhieni a Gofalwyr

Rydym yn helpu rhieni / gofalwyr wrth ddatblygu eu hyder wrth ddelio gyda'u plant / pobl ifanc mewn modd bositif gan ddatblygu sgiliau ymdopi newydd.

Mae’r gwasanaeth rhiantu yn cynnwys:

  • Gwaith 1 i 1 
  • Sesiynau grŵp 
  • Dysgu sut i osgoi ffraeo a delio gydag ymddygiad anodd person ifanc
  • Gosod ffiniau  

 

Dioddefwyr troseddau

Nid oes rhaid i chi gyd-weithio gyda'r gwasanaeth hwn pan fyddwn yn cysylltu â chi'n dilyn digwyddiad. Nid oes rhaid i chi ateb.

Byddwn yn gofyn pa effaith gafodd y drosedd arnoch. Byddwn hefyd yn rhoi cyfle i chi ddechrau deialog  gyda'r unigolyn a oedd yn gyfrifol os byddwch yn dymuno. Gallwch awgrymu lle rydych chi'n meddwl y dylai'r person ifanc wneud rhywfaint o waith yn y gymuned, neu dderbyn llythyr eglurhad / ymddiheuro neu gyfarfod â'r person ifanc wyneb yn wyneb.

Hyd yn oed os nad ydych yn fodlon cymryd rhan pan fyddwn yn cysylltu â chi am y tro cyntaf, gallwch gysylltu  â ni nes ymlaen. Rydym yn gweithio yn unol â'r Cod Ymarfer Cenedlaethol ar gyfer Dioddefwyr Troseddau a gyhoeddir gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder. 

 

Datganiad Preifatrwydd