Astudiaethau Achos Cronfa Ffyniant Gyffredin Gwynedd

Cefnogi Busnesau Lleol

Roedd cefnogi busnesau lleol yn rhan greiddiol o weledigaeth y Cyngor ac yn cyd-fynd ag amcanion y Gronfa Ffyniant Gyffredin i hybu twf cynaliadwy a chreu cyfleoedd gwaith. Trwy fuddsoddi mewn gwahanol fentrau mae’r Gronfa wedi cyfrannu at gryfhau economi’r sir.

Dyma astudiaethau achos o rai o’r busnesau sydd wedi elwa o gefnogaeth Cyngor Gwynedd drwy’r Gronfa:

Always Aim High Building

Always Aim High Events (Camu i'r Copa)

Llwyddodd y cwmni digwyddiadau awyr agored i adeiladu pencadlys newydd fydd yn cryfhau’r sector digwyddiadau yng Ngwynedd.
Gweld yr astudiaeth achos
Antur Nantlle gwefan

Antur Nantlle Cyf

Cafodd unedau busnes Parc Menter Dyffryn Nantlle do newydd a phaneli solar i wella effeithlonrwydd ynni a lleihau costau i’r tenantiaid. 
Gweld yr astudiaeth achos
Busnes gwefan

Cyngor Gwynedd

Rhaglen o weithgareddau i ddarparu cyngor a chefnogaeth, yn ogystal â grantiau i ddatblygu busnesau Gwynedd, gyda’r nod o greu economi mwy gwydn yn barod am heriau’r dyfodol.
Gweld yr astudiaeth achos
Mor Ni gwefan

Môr Ni Gwynedd

Cafodd sector pysgod a bwyd môr yng Ngwynedd gefnogaeth Prifysgol Bangor i gryfhau’r cysylltiad rhwng y gadwyn cyflenwi bwyd môr a’r busnesau o gwmpas arfordir Gwynedd.
Gweld yr astudiaeth achos
Aberdyfi 2 gwefan

Prosiectau Cymunedol Aberdyfi Cyf

Llwyddodd y fenter gymunedol i brynu eiddo yn cynnwys siop, garej, gweithdai a fflat gan warchod swyddi a chyfleusterau yn y pentref.  
Gweld yr astudiaeth achos

 

Llywodraeth DU