Prosiectau Cymunedol Aberdyfi Cyf
Prosiectau Cymunedol Aberdyfi Cyf
Garej Penrhos, Dyfi Stores a’r Swyddfa Bost
Ardal: Bro Dysynni
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £500,000
Beth yw’r cefndir?
Roedd busnesau Garej Penrhos, Dyfi Stores a’r Swyddfa Bost yn Aberdyfi mewn perygl o gau wrth i’r eiddo oedd yn cynnwys garej, gweithdy, siop a fflat tair llofft fynd ar werth.
Ffurfiwyd y cwmni nid-er-elw Prosiectau Cymunedol Aberdyfi Cyf i arbed y busnesau a’r swyddi lleol drwy brynu’r eiddo i’r gymuned.
Beth oedd y cymorth?
Bu cyfnod ansicr iawn yn ystod y broses prynu yn dilyn tirlithriad ar ffiniau’r eiddo, oedd yn golygu anhawster i gael yswiriant nes oedd gwaith atgyweirio wedi ei wneud.
Ond yn dilyn sefydlogi’r safle a buddsoddiad gan y Gronfa, llwyddwyd i brynu’r eiddo.
Pa wahaniaeth mae hyn wedi ei wneud?
Mae’r pryniant wedi gwarchod wyth swydd yn y gymuned leol drwy ddiogelu’r busnesau ar y safle. Mae cadw’r adeilad yn eiddo i’r gymuned hefyd wedi golygu bod tŷ fforddiadwy ar gael i’w rentu gan bobl leol, ac mae cyfle i ddatblygu’r gweithdy enfawr yn ddwy uned newydd i fusnesau lleol.
“Agorodd Taid y garej gyntaf fan hyn yn 1922, ond yn ddiweddar daeth yr adeilad ar werth. Yr unig gynigion oedd cael gwared â’r hen adeiladau a datblygu tai marchnad agored yma. Mae’n debyg mai ail gartrefi fyddai nhw wedi bod, a doeddwn i ddim eisiau gweld rhywbeth fel hynny’n digwydd. Ryda ni wedi gallu gwarchod wyth swydd, achub y siop, y swyddfa bost a’r garej.”
Catrin O’Neill,
Cyfarwyddwr
Yn ôl i'r astudiaethau achos