Always Aim High Events
Canolfan Ddigwyddiadau ‘Camu i’r Copa’
Ardal: Bro Peris
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £500,000
Beth yw’r cefndir?
Mae Always Aim High Events yn fusnes lleol, a sefydlwyd yn 2010, sy’n trefnu a hyrwyddo digwyddiadau chwaraeon awyr agored yng Ngwynedd. Mae’r digwyddiadau yn denu cymuned o athletwyr amatur a phroffesiynol o bell ac agos ac yn cyfrannu’n sylweddol i’r diwydiant twristiaeth lleol.
Beth oedd y cymorth?
Roedd y cwmni yn awyddus i gael canolfan digwyddiadau newydd fyddai’n cynnwys swyddfeydd, storfa a gofod cymunedol ar safle yn Llanberis. Gyda buddsoddiad o’r gronfa adeiladwyd pencadlys newydd i’r cwmni ar Stâd Ddiwydiannol Glyn Rhonwy. Dechreuodd y gwaith ym Medi 2024 a symudodd y cwmni i mewn i’w pencadlys newydd ym mis Mawrth 2025.
Pa wahaniaeth mae hyn wedi ei wneud?
Bydd y ganolfan newydd - ‘Camu i’r Copa’ - yn ganolbwynt i weithgareddau’r cwmni, ac yn cynnig ystafell a gofod yn y storfa i’r gymuned ddefnyddio.
Mae 90% o gyllideb y prosiect wedi ei wario gyda chyflenwyr lleol, gan arddangos talent ac adnoddau cyfoethog y rhanbarth. Wrth i'r cwmni edrych ymlaen at y tymor sydd i ddod, mae'r swyddfa newydd yn dyst i gydweithredu lleol a phŵer buddsoddi yn y gymuned.
“Rydym yn hynod falch o fod wedi defnyddio cyflenwyr lleol ar gyfer pob cam o'r adeiladu. Mae eu gwaith caled a'u crefftwaith wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y prosiect a'i gwblhau ar amser."
Nigel Kendrick, Cyfarwyddwr
Trwy’r datblygiad bydd y cwmni yn gallu parhau i ddatblygu’r economi twristiaeth a chwaraeon awyr agored yn yr ardal.
“Heb yr help gan yr SPF, fydda ni byth wedi gallu adeiladu'r ganolfan newydd yn Llanberis. Bydd y gefnogaeth yn helpu ni i barhau i dyfu i’r dyfodol – creu swyddi a chyfrannu at yr economi awyr agored yma yng Ngwynedd.”
Tîm Lloyd, Cyfarwyddwr
Gwefan Always Aim High Events
Yn ôl i'r astudiaethau achos