Cyngor Gwynedd

Prosiect Cefnogi Busnes

Ardal: Gwynedd gyfan
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £2,038,574

 

Beth yw’r cefndir?

Cafodd rhaglen o weithgareddau ei chreu oedd yn darparu cyngor a chefnogaeth datblygu yn ogystal â grantiau ar gyfer cymuned fusnes y sir. Nod y prosiect oedd creu economi mwy gwydn yng Ngwynedd, sy’n barod am heriau’r dyfodol gan roi’r sgiliau, y cysylltedd a’r buddsoddiad angenrheidiol yn eu lle.

 

Beth oedd y cymorth?​​

Sefydlwyd dau gynllun i ddarparu cymorth, gwybodaeth a chefnogaeth ymarferol, sef Dyfodol Digidol ac Ailwefru. Roedd dwy gronfa grant hefyd ar gael i fusnesau Gwynedd sef Cronfeydd Datblygu Busnes a Grantiau Gwella Eiddo.

 

Pa wahaniaeth mae hyn wedi ei wneud?

Cafodd 76 o fusnesau gymorth ac mae’r cronfeydd wedi helpu cwmnïau o bob maint ym mhob ardal i dyfu, ac i greu a diogelu swyddi.

Dyma hanesion rhai o’r busnesau sydd wedi elwa o’r cronfeydd:

 

Yn ôl i'r astudiaethau achos