Antur Nantlle
Parc Menter Dyffryn Nantlle
Ardal: Bro Lleu & Nantlle
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £500,000
Beth yw’r cefndir?
Mae Antur Nantlle Cyf yn fenter gymdeithasol a sefydlwyd ym 1991 i weithio er lles Dyffryn Nantlle. Mae’n gwmni cymunedol di-elw sy’n cael ei redeg gan fwrdd o gyfarwyddwyr gwirfoddol.
Dros y blynyddoedd mae wedi gweithredu nifer o brosiectau i greu cyfleoedd adfywio economaidd yn yr ardal, ac erbyn heddiw maent yn rhoi cartref i dros 50 o fusnesau annibynnol lleol sy’n cynnal dros 130 o swyddi.
Beth oedd y cymorth?
Parc Menter Dyffryn Nantlle yw safle diweddaraf o unedau busnes yr Antur ar Stâd Ddiwydiannol Penygroes. Roedd angen gwneud gwelliannau hanfodol i’r unedau i wella eu heffeithlonrwydd ynni, ac i sicrhau eu bod yn addas at ddefnydd busnesau lleol, a chynnal swyddi am flynyddoedd i ddod.
Cafodd yr unedau busnes eu hail-doi, a gosodwyd paneli solar a deunydd insiwleiddio er mwyn gwella perfformiad amgylcheddol yr unedau, creu ynni rhâd glân, a lleihau costau’r busnesau lleol sy’n gweithio ynddynt.
Pa wahaniaeth mae hyn wedi ei wneud?
Mae’r gwaith wedi diogelu safle bwysig sy’n cynnal swyddi yn lleol am flynyddoedd i ddod. Mae’r unedau yn gynhesach, a’r safle a’r adeiladau yn gyffredinol yn edrych yn fwy deniadol a chroesawgar.
Dros amser, bydd y busnesau sy’n denantiaid yn gweld arbedion ariannol sylweddol o’r paneli solar drwy leihad yn eu biliau trydan, gyda’r nod o gryfhau cynaladwyedd hirdymor y busnesau, a’r swyddi maent yn eu cynnal.
“Pwrpas y cynllun oedd diogelu safle cyflogaeth bwysig yn Nyffryn Nantlle, a rhoi hwb i gynaladwyedd busnesau lleol. Drwy gyfuniad o osod mesurau insiwleiddio a phaneli solar, bydd tunelli o allyriadau carbon yn cael eu harbed bob blwyddyn, tra bydd arbedion ariannol uniongyrchol i ddefnyddwyr yr unedau i’w cael drwy leihad yn eu costau trydan.”
Robat Jones, Prif Swyddog
Antur Nantlle Cyf
Peris & Corr
Mae Peris & Corr yn fusnes argraffu sgrîn eco-gyfeillgar sydd yn denant yn un o unedau busnes Parc Menter Dyffryn Nantlle, gan weithio o’r stiwdio yn yr uned. Maent yn arbenigo mewn argraffu â llaw ar ddillad o ffynhonnell foesegol, gan ddefnyddio inciau sail-dŵr o ansawdd uchel.
Mae’r cwmni yn darparu crysau-t, hwdis, bagiau a phob math o ddeunyddiau eraill i nifer o gleientiaid amrywiol.
Pa wahaniaeth mae’r cymorth wedi ei wneud?
“Rydan ni’n barod wedi gweld gostyngiad yn ein biliau trydan, ac mi fydd y buddion yn fwy fyth yn y dyfodol. Fel cwmni sy’n ymrwymo i leihau ein effaith ar yr amgylchedd, mae’r cynllun yma wedi gwella effeithlonrwydd ein gweithle, a lleihau ein allyriadau carbon i’r dyfodol.”
Dyfrig Peris,
Peris a Corr
Yn ôl i'r astudiaethau achos