Môr Ni Gwynedd
Prifysgol Bangor: Môr Ni Gwynedd
Ardal: Arfordir Gwynedd
Cyfanswm arian UKSPF Gwynedd: £400,000
Beth yw’r cefndir?
Nod y prosiect oedd cefnogi a datblygu’r sector pysgota a bwyd môr yng Ngwynedd, gan sicrhau ei fod yn fwy amrywiol a chynaliadwy i’r dyfodol. Trwy waith ymchwil a chydweithio’n agos gyda physgotwyr, busnesau lleol, y sector fwyd a’r gymuned yn ehangach, roedd y prosiect am adnabod yr heriau sy’n wynebu busnesau ac yn awgrymu ffyrdd o warchod swyddi a chryfhau’r economi ‘glas’ mewn ffordd cynaliadwy.
Beth oedd y cymorth?
Trwy gydweithio â chymunedau pysgota, fe adnabuwyd anghenion y diwydiant i’w wneud yn hyfyw i’r hir dymor. Bu llawer o waith ymgysylltu gyda’r diwydiant bwyd môr – yn bysgotwyr, bwytai, marchnadoedd a gwerthwyr pysgod. Fe aeth stondin Môr Ni Gwynedd i amryw o ddigwyddiadau yng Ngwynedd i hyrwyddo’r diwydiant bwyd lleol, gyda chogyddion enwog yn dangos sut i goginio bwyd môr. Cafodd ‘Llwybr Bwyd Môr’ ei greu, sy’n cynnwys mapiau o gylchdeithiau i hyrwyddo llefydd i fwyta bwyd môr lleol o gwmpas yr arfordir.
Roedd hyfforddiant hefyd i bysgotwyr a busnesau cysylltiedig mewn sgiliau traddodiadol er mwyn hyrwyddo a diogelu treftadaeth forwrol yr ardal.
Pa wahaniaeth mae hyn wedi ei wneud?
Mae cysylltiad cryf wedi ei greu rhwng y gadwyn cyflenwi bwyd môr a’r busnesau o gwmpas arfordir Gwynedd. Mae deunydd hyrwyddo’r ‘Llwybr Bwyd Môr’ ar gael mewn safleoedd twristiaeth a bwytai, a safle we i hyrwyddo’r busnesau wedi ei greu. Mae’r cydweithio rhwng y Brifysgol, Cyngor Gwynedd a chymunedau pysgota, wedi gosod sylfeini cadarn ar gyfer datblygiad tymor hir y diwydiant.
"Cefais gyfle i weithio gyda'r tîm cyflawni yn Nefyn ac ym Mhorth Penrhyn, Bangor i godi ymwybyddiaeth ac addysgu aelodau o'r cyhoedd o'n bwyd môr lleol.
Roedd yn brofiad positif iawn i mi. Roedd yn wych annog plant (ac oedolion) i fwyta bwyd môr lleol, ac roeddwn i'n falch o ddweud wrthyn nhw sut gafodd y pysgod eu dal, ac rhoi trosolwg o weithio ar gwch pysgota."
Sian Davies, Rheolwr Technegol a Chyd-sylfaenydd
Morflasus
Dysgu mwy
Môr Ni Gwynedd - Prifysgol Bangor
Facebook Môr Ni Gwynedd
Llwybr Bwyd Môr
Yn ôl i'r astudiaethau achos