Mae Gostyngiad Treth Cyngor yn ostyngiad yn eich bil Treth Cyngor wedi ei seilio ar:

- eich incwm

- maint eich teulu

- oedolion eraill sy’n byw gyda chi

- faint o Dreth Cyngor sydd raid i chi ei dalu.

Yn gyffredinol yr isaf eich incwm, y mwyaf y gostyngir eich bil gan Ostyngiad Treth Cyngor, ac os ydych yn gymwys am y gostyngiad mwyaf, byddwch yn derbyn 100% o ostyngiad yn eich bil, sy'n golygu na fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw Dreth Cyngor.