Os ydych yn anghytuno efo’n penderfyniad Gostyngiad Treth Cyngor, dylech gysylltu o fewn UN MIS i ddyddiad y rhybudd, neu efallai na fedrwn ystyried unrhyw anghydfod.
Gallwch naill ai:
- ofyn am eglurhad
- ofyn i ni edrych eto ar y penderfyniad
- apelio yn erbyn y penderfyniad – yn ysgrifenedig yn unig.
Os byddwch yn apelio yn erbyn y penderfyniad Gostyngiad Treth Cyngor, mi fydd eich apêl yn cael ei glywed gan dribiwnlys annibynnol a weinyddir gan Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni.
Budd-daliadau a grantiau: Cysylltu â ni
Siop Gwynedd: Arfon, Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
Os ydych yn dymuno cael mynediad at wasanaethau'r Cyngor wyneb-yn-wyneb, gallwch wneud hynny yn ein swyddfeydd Siopau Gwynedd.
Gallwch gasglu neu gyflwyno ffurflenni a dogfennau yn y swyddfeydd yma - bydd staff yn gwirio a chopïo eich dogfennau gan eu dychwelyd i chi yn syth.