Mae pawb eisiau byw’n annibynnol, gan aros yn ein cartrefi ein hunain, a chymdeithasu yn ein cymunedau.

Pa help sydd ar gael i chi?

Defnyddiwch y teclyn hunanasesu ar-lein Helpu'n Hun i ddod o hyd i wybodaeth am offer sydd ar gael i wneud eich bywyd bob dydd yn haws. Mae asesiad Helpu’n Hun yn cynnig cyngor i’ch helpu efo anawsterau yr ydych yn eu wynebu yn:

  • Eich cartref – e.e. yr ystafell ymolchi, grisiau, yr ystafell fyw, yr ardd.
  • Gweithgareddau bob dydd - e.e. siopa, gwisgo, paratoi bwyd.
  • Eich iechyd – e.e. rheoli meddyginiaeth, diogelwch yn y cartref, golwg a chlyw.
Hunanasesiad Helpu'n Hun

Mae gan Dewis Cymru hefyd restr o sefydliadau sy’n cynnig gwasanaethau neu weithgareddau i’ch cefnogi i fyw’n annibynnol:

Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Gallwch hefyd gael help a gwybodaeth i gael mynediad haws i gefnogaeth, gweithgareddau a gwasanaethau yn eich cymuned drwy eich Hwb Cymunedol lleol.


Asesiad gan y Gwasanaeth Oedolion

Os ydych wedi gwneud yr hunanasesiad uchod ac yn teimlo eich bod angen sgwrs bellach gallwch gysylltu â ni.

Byddwn yn cydweithio efo chi er mwyn asesu eich anghenion, tra'n ystyried eich cryfderau personol a'r cymorth sydd ar gael i chi gan aelodau o'r teulu, ffrindiau ac eraill yn y gymuned.

Gwneud cais am asesiad

Mwy o wybodaeth am yr asesiad, a phwy sy'n gymwys i dderbyn cefnogaeth


Offer i'ch helpu i fyw yn annibynnol

Mae'n bosib y bydd yr asesiad yn dangos y gall offer penodol eich help o gwmpas y tŷ neu wrth i chi deithio a chymdeithasu.

Mae'n bosib prynu llawer o offer yn breifat a hunangyfeirio eich hun at rai gwasanaethau heb dderbyn asesiad. Dyma'r math o offer a gwasanaethau sydd ar gael:

Help o gwmpas y tŷ

Rhoi gwybod am broblem efo offer wedi torri / angen ei gasglu
Os ydych wedi derbyn offer o'r Gyd-Storfa a bod yr offer wedi torri ac angen ei gasglu, ffoniwch:
03000 852 878

Help wrth deithio a chymdeithasu