Gall problemau iechyd meddwl effeithio unrhyw un ar unrhyw amser. Mae timau iechyd meddwl Cyngor Gwynedd, a arweinir gan weithwyr cymdeithasol, yn cynnig cefnogaeth a gwasanaethau cymdeithasol i gefnogi unigolion dros 18 oed, a’u gofalwyr, gyda’u anghenion iechyd meddwl.
Mae llawer o grwpiau a mudiadau o fewn Gwynedd a all eich helpu a'ch cefnogi gyda'ch iechyd meddwl. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am grwpiau yn lleol i chi ar wefan Dewis Cymru:
Dewis Cymru: Iechyd Meddwl (yn agor mewn tab newydd)Mae llyfrau cymorth hefyd ar gael yn eich llyfrgell leol
Gwasanaeth Cymdeithasol Iechyd Meddwl - Cyngor Gwynedd
Mae dau dîm o weithwyr cymdeithasol a gweithwyr cefnogol gan Cyngor Gwynedd i gynorthwyo unigolion gyda’u anghenion iechyd meddwl.
Gallwn:
- ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth cymdeithasol i bobl ag anghenion iechyd meddwl
- eich helpu i gael cymorth personol i'ch helpu i fyw mor annibynnol â phosib
- cynnig cyngor a rhannu manylion cyswllt sefydliadau defnyddiol
- cefnogi gofalwyr.
Ni allwn:
- ddarparu gwasanaeth brys (i gael gwasanaeth brys ffoniwch 111 a dewis opsiwn 2)
- ddarparu meddyginiaeth (cysylltwch â’ch Meddyg Teulu neu Tim Iechyd Meddwl Cymunedol (GiG)
Cysylltu â ni
Os ydych yn teimlo eich bod chi neu rywun arall angen y gefnogaeth hon, gofynnwch i'ch meddyg eich cyfeirio atom.
Neu cysylltwch ag un o'n timau yn uniongyrchol (Hunan gyfeirio):
- Tîm Gwasanaeth Cymdeithasol Iechyd Meddwl De Gwynedd (9yb – 5yp, dydd Llun i ddydd Gwener) Map ardal De Gwynedd (yn agor mewn tab newydd)
01766 772599 - Tîm Gwasanaeth Cymdeithasol Iechyd Meddwl Arfon (9yb – 5yp, dydd Llun i ddydd Gwener) Map ardal Arfon (yn agor mewn tab newydd)
01286 682880 - Rhif allan o oriau
01248 353 551 - Ffurflen ar-lein: cysylltu â'r Tim Iechyd Meddwl (yn agor mewn tab newydd)
Mae’n hanfodol bod yr unigolyn wedi rhoi caniatâd cyn bod modd eu cyfeirio at y gwasanaeth.
Gwasanaeth Brys
Mae cymorth Iechyd Meddwl brys ar gael gan GiG Cymru, 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos. Ffoniwch 111 a dewis opsiwn 2
Gwybodaeth bellach
- Help gyda Iechyd Meddwl Pobl Ifanc (yn agor mewn tab newydd)
- Poeni am ddementia
- Galar a phrofedigaeth (yn agor mewn tab newydd)
Cysylltau defnyddiol
- Amser i siarad (yn agor mewn tab newydd) (cefnogi Oedolion a Plant)
- Gorwel (yn agor mewn tab newydd)(cefnogi pobl sy’n dioddef trais yn y cartref neu gefnogi pobl rhag colli ei cartref ac atal digartrefedd)
- GISDA (yn agor mewn tab newydd) (cefnogi pobl ifanc i fyw yn annibynnol)
- Canolfan Felin Fach (yn agor mewn tab newydd) (Hwb Cymunedol Pwllheli)
- Canolfan Tan y Maen Blaenau Ffestiniog (yn agor mewn tab newydd)
- Canolfan Tan y Maen Dolgellau (yn agor mewn tab newydd)
- Canolfan Abbey Road Bangor (cefnogi Oedolion)
- Samariaid Cymru (yn agor mewn tab newydd) (llinell gymorth, e-bost neu chat)
- Meddwl.org (yn agor mewn tab newydd) (cefnogaeth Iechyd Meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg)
- Parabl (yn agor mewn tab newydd) (therapi siarad ar gyfer Gogledd Cymru)
- Papyrus (yn agor mewn tab newydd) (llinell gymorth atal hunan laddiad 24 awr 0800 068 4141)
- C.A.L.L (llinell gymorth 24 awr 0800 132 737)
- Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) (Cyfeirlyfr i ddarganfod gwahanol wasanaethau defnyddiol)
- DPJ Foundation (yn agor mewn tab newydd) (cefnogaeth i unigolion ym myd amaeth)
- Hafal Porthmadog (Adferiad) cefnogaeth Iechyd Meddwl i unigolion a’u teuluoedd)
Gwasanaeth Iechyd Meddwl Clinigol
Bydd unigolion sydd yn cael/ neu sydd angen cefnogaeth iechyd meddwl clinigol yn parhau i’w dderbyn gan y Gwasanaeth Iechyd (BIPBC), unai yn Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd (Ardal Arfon) neu Ysbyty Alltwen (Ardal De Gwynedd):
- Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd, Bangor, Gwynedd 03000 840306
- Ysbyty Alltwen, Tremadog, Porthmadog, Gwynedd 03000 850027
Bydd unigolion sydd ag anghenion iechyd meddwl clinigol a chymdeithasol yn derbyn cefnogaeth gan y ddau wasanaeth.