Mwy o wybodaeth am yr asesiad, a phwy sy'n gymwys i dderbyn cefnogaeth

Gwybodaeth am asesiad gan Dîm Oedolion Gwynedd

Mae pob un ohonom eisiau rheolaeth dros ac o fewn ein bywydau a’n dymuno byw mor annibynnol a diogel â phosib, ond oherwydd salwch neu amgylchiadau arbennig, weithiau rydym angen cefnogaeth ychwanegol.

Mae gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ddyletswydd i asesu eich hanghenion a sicrhau eu bod yn cael eu diwallu yn y ffordd sydd orau i chi. Mae  Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (yn agor mewn tab newydd) yn gyfraith sy'n rhoi mwy o lais i chi am y gofal a'r cymorth a gewch. Mae'n rhoi mwy o bwyslais ar hyrwyddo annibyniaeth pobl i roi llais a rheolaeth gryfach iddynt.

Cwestiynau a ofynnir yn aml