Mae cadeiriau olwyn traeth arbenigol ar gael i'w llogi ar sawl traeth yng Ngwynedd.
Mae'r cadeiriau wedi eu cynllunio i helpu unigolion sydd efo symudedd cyfyngedig i gael mynediad at y traeth yn ddiogel ac yn gyfforddus. Mae rhai o'r cadeiriau hefyd yn addas i'w defnyddio yn y dŵr.

Mae cadeiriau olwyn traeth ar gael ar y traethau canlynol:
- Morfa Bychan (Black Rock Sands), Porthmadog
- Prif Draeth Abersoch
- Traeth Machroes
- Plas Heli, Pwllheli
- Nefyn
- Abermaw
- Aberdaron
Llogi cadair olwyn traeth
Rydym yn argymell eich bod yn archebu ymlaen llaw lle bo hynny'n bosib.
Cysylltwch â ni i drefnu:
- morwrol@gwynedd.llyw.cymru
- 01758 704066
Darperir y gwasanaeth gan Wasanaeth Morwrol Cyngor Gwynedd gyda chefnogaeth werthfawr elusennau lleol a phartneriaid cymunedol.