Wrth i bob un ohonom fynd yn hŷn, mae’r risg o gael anaf difrifol o ganlyniad i gwympo yn cynyddu. Gall hyn fod yn rhwystr i sut mae rhywun yn byw eu bywydau.

Ar y dudalen hon gallwch ddarganfod gwybodaeth o sut i leihau’r risg, cymorth ychwanegol a hefyd cymorth yn dilyn cwymp.

Awgrymiadau defnyddiol

  • Gwisgwch esgidiau/ ‘slipars’ addas sy’n ffitio yn dda
  • Sicrhewch fod digon o olau ar eich grisiau a gosodwch ganllaw grisiau
  • Symudwch unrhyw fatiau rhydd neu sicrhewch bod cefn gwrth-slip arnynt
  • Symudwch ddodrefn i sicrhau nad ydynt ar lwybr cerdded
  • Defnyddiwch fat gwrth-slip mewn bath neu gawod
  • Cadwch offer rydych yn ddefnyddio yn aml o fewn gafael hawdd
  • Sicrhewch bod golau wrth eich gwely i chi fedru rhoi hwnnw ymlaen cyn codi
  • Os ydych yn defnyddio cynorthwyon cerdded sicrhewch bod traed rwber arnynt.
  • Ystyriwch gael larwm Teleofal (yn agor mewn tab newydd) a all alw am gymorth os ydych yn cwympo. Sicrhewch eich bod yn gwisgo’r larwm trwy’r amser.

Iechyd

  • Sicrhewch brawf llygaid rheolaidd. Os ydych dros 60 mlwydd oed mae modd cael prawf am ddim ar y GIG pob dwy flynedd.
  • Gwiriwch eich pwysau gwaed gyda’r meddyg, yn enwedig os ydych yn cwympo ar ôl codi o’r gwely neu o gadair
  • Os oes gennych broblemau symudedd, ewch i weld meddyg
  • Bwytwch yn iach a chadwch yn heini. Mae mwy o wybodaeth am ddosbarthiadau heini pwrpasol is-law.
  • Ewch am brawf clywed – gall hylif clustiau achosi heriau cydbwysedd

Cadw’n heini

Mae sawl gwasanaeth yng Ngwynedd yn cynnig cymorth ataliol neu wedi cwymp. Cymerwch olwg fan hyn ar beth sydd ar gael yn eich ardal chi i’ch helpu.


Cyfarpar, offer a chymorth ychwanegol

  • Teleofal - Gwasanaeth monitro sy’n eich galluogi i alw am help ddydd neu nos drwy gyffwrdd botwm, neu drwy gyfres o synwyryddion awtomatig yn eich cartref yw Teleofal. Mae'n ffordd ataliol o gynnig gofal o bell i drigolion, ac mae'n gallu bod o gymorth i leihau risgiau o fewn y cartref ac i alluogi chi fyw bywyd mor annibynnol a phosib.
  • Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn (yn agor mewn tab newydd) - Mae Gofal a Thrwsio yn cynnig gwasanaeth i helpu pobl hŷn Gwynedd a Môn i fyw yn annibynnol adref a hynny trwy wneud asesiad o’r cartref a chynnig cyfarpar lle’n briodol i leihau’r risg o godwm.
  • Age Cymru (yn agor mewn tab newydd)
    Mae Age Cymru yn cynnig mwy o wybodaeth er mwyn lleihau’r risg o gwympo.