Thema 7: Ysgol Friars
Rydym eisiau:
Cefnogi a sefydlogi Ysgol Friars.
Beth mae adroddiad Cyfiawnder drwy ein Dewrder yn ei ddweud?
(Hon ydi’r adroddiad gafodd ei chyhoeddi yn dilyn ymchwiliad Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru i droseddau y cyn-bennaeth. (Gweld yr adroddiad)
Er nad oes argymhelliad penodol i Ysgol Friars yn unig yn yr Adroddiad, mae’n dangos yn glir fod y cyn-bennaeth wnaeth droseddu yn:
-
rheoli pob agwedd o’r ysgol.
-
herio unrhyw un a oedd yn codi pryder amdano.
-
creu awyrgylch o ofn a diffyg ymddiriedaeth gan gynnwys bwlio disgyblion, rhieni a staff.
Beth sydd wedi digwydd yn barod i wella pethau?
-
Penodwyd Pennaeth newydd i arwain yr Ysgol.
-
Ers Medi 2023, mae Adran Addysg Cyngor Gwynedd wedi helpu’r ysgol drwy ddarparu staff ychwanegol a chefnogaeth i’r arweinyddiaeth newydd i adolygu’r polisïau.
-
Mae disgyblion a staff yr ysgol yn cael cefnogaeth i edrych ar ôl eu llesiant.
-
Mae corff llywodraethu’r ysgol wedi newid. Mae pedwar aelod newydd wedi cael eu penodi i gynrychioli’r Cyngor, ac mae clerc newydd yn helpu i drefnu a chadw trefn ar y cyfarfodydd.
Beth fydd Cyngor Gwynedd yn ei wneud rhwng mis Ionawr 2026 a mis Gorffennaf 2026?
- Bydd Cyngor Gwynedd yn cymharu trefniadau gweithredu’r ysgol gyda threfniadau ysgolion eraill y sir er mwyn ystyried a oes angen gwneud unrhyw newidiadau.
Beth fydd Cyngor Gwynedd wedi ei gyflawni erbyn mis Chwefror 2027
Sut fydd Cyngor Gwynedd yn mesur effaith y newidiadau
Yn ôl i brif dudalen Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb