Thema 6: Cynllunio Argyfwng

thema 6

Rydym eisiau gwneud yn siŵr: 

Bod trefniadau cynllunio ac ymateb i argyfwng addas mewn lle, a bod pawb yn gwybod beth i’w wneud mewn sefyllfa argyfwng diogelu. 

Beth mae adroddiad Cyfiawnder drwy ein Dewrder yn ei ddweud?

(Hon ydi’r adroddiad gafodd ei chyhoeddi yn dilyn ymchwiliad Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru i droseddau y cyn-bennaeth. (Gweld yr adroddiad)

  • Nid oedd cynllun argyfwng gan yr ysgol, lle bu i’r cyn-bennaeth gam-drin disgyblion. 

  • Nid oedd yn glir beth oedd angen ei wneud gan fod yr argyfwng yn ymwneud â’r pennaeth. 

  • Ni chafodd yr heddlu eu galw ar unwaith pan roedd un o ddisgyblion yr ysgol mewn perygl. 

  • Ni chafodd y cyn-bennaeth ei atal rhag dod i’r ysgol pan gafodd staff wybod am y drosedd.

Beth sydd wedi digwydd yn barod i wella pethau? 

  • Mae tîm o fewn y Cyngor wedi cyfarfod er mwyn adolygu’r cynllun argyfwng. 

  • Sgyrsiau efo aelodau staff allweddol i ddeall be aeth o’i le ar ddiwrnod yr arest a sut i wella trefniadau i'r dyfodol. 

  • Adolygu trefniadau rhannu gwybodaeth sydd eisoes ar waith yn y maes diogelu a chynllunio at argyfyngau i weld os oes angen eu cryfhau.  

Beth fydd yn digwydd rhwng mis Ionawr 2026 a mis Gorffennaf 2026? 

Bydd Cyngor Gwynedd yn.... 

  • Cyd-weithio gyda’r Heddlu er mwyn gwneud yn siŵr bod trefniadau cadarn mewn lle pe bai sefyllfa argyfwng diogelu yn codi yn y dyfodol. 

  • Paratoi adnodd hyfforddi ar sut i ymateb i argyfyngau diogelu.  

Beth fydd Cyngor Gwynedd yn ei wneud erbyn mis Chwefror 2027

  • Bydd staff yn derbyn hyfforddiant ar sut i ddelio efo argyfwng diogelu. 

  • Bydd y Cyngor yn gweithio gyda gwahanol wasanaethau ac awdurdodau lleol eraill drwy’r Bwrdd Cynllunio Argyfwng Rhanbarthol. 

Sut fydd Cyngor Gwynedd yn mesur effaith y newidiadau

  • Canran staff y Cyngor sydd wedi mynychu hyfforddiant cynllunio argyfwng.

  • Canran ysgolion Gwynedd sydd wedi mabwysiadu Polisi Rheoli Argyfwng.

  • Nifer archwiliadau boddhaol o gynlluniau argyfwng ar safleoedd y Cyngor.

Yn ôl i brif dudalen Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb