Thema 4: Llywodraethiant mewn Ysgolion

thema 4

Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod:

Llywodraethwyr ysgolion Gwynedd yn deall eu rôl a'u cyfrifoldebau i gadw plant yn ddiogel. (Grŵp o bobl sy'n gwirfoddoli i reoli ysgol ydi Llywodraethwyr.)

Systemau mewn lle er mwyn mesur lles disgyblion, staff, a diwylliant ehangach ysgolion.


Beth mae adroddiad Cyfiawnder drwy ein Dewrder yn ei ddweud?

(Hon ydi’r adroddiad gafodd ei chyhoeddi yn dilyn ymchwiliad Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru i droseddau y cyn-bennaeth. (Gweld yr adroddiad)

  • Roedd gan y cyn-bennaeth ormod o reolaeth yn yr Ysgol.

  • Nid oedd Llywodraethwyr yr ysgol yn teimlo’n hyderus i herio’r Pennaeth. Dywedodd y Llywodraethwyr nad oeddent yn cael anghytuno efo fo, , ac y gallai anghytuno arwain at gael eu gorfodi i adael y corff llywodraethu.

  • Roedd yr ysgol yn gweithredu polisïau diogelu oedd wedi eu hysgrifennu gan y Pennaeth, nid Polisi y sir. 

  • Nid oedd y Llywodraethwyr wedi cael digon o hyfforddiant ar sut i ddiogelu plant. 

 

Beth sydd wedi ei wneud i wella pethau

  • Mae hyfforddiant diogelu yn cael ei ddarparu i lywodraethwyr ysgolion Gwynedd. Mae hyfforddiant ychwanegol yn cael ei roi i Gadeiryddion a Llywodraethwyr sy’n gyfrifol am ddiogelu ar bob corff llywodraethu.

  • Mae llawlyfr llywodraethwr newydd wedi'i greu ac wedi'i rannu gyda holl Lywodraethwyr Ysgolion Gwynedd. 

Beth fydd Cyngor Gwynedd yn ei wneud rhwng mis Ionawr 2026 a mis Gorffennaf 2026?

Bydd Cyngor Gwynedd yn: 

  • Paratoi, datblygu a rhannu rhaglen sefydlog ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion Gwynedd. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar faterion diogelu lles, ac yn rhoi gwybodaeth iddyn nhw i ddeall sut mae eu hysgol yn gwneud. 
  • Penodi swyddog ychwanegol i gefnogi llywodraethwyr ysgolion.

Beth fydd Cyngor Gwynedd yn ei wneud erbyn mis Chwefror 2027

  • Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu trefn llywodraethu ysgolion yng Nghymru a byddwn yn rhoi y newidiadau yma ar waith.

Sut fydd Cyngor Gwynedd yn mesur effaith y newidiadau

  • Arolygon  Estyn (Tîm o bobl sy’n ymweld ag ysgolion i weld pa mor dda mae'r ysgol yn gwneud) yn dangos bod pob ysgol yn dilyn y drefn diogelu.

  • Mesur pa mor hyderus ydi llywodraethwyr yn dilyn derbyn hyfforddiant diogelu.

Yn ôl i brif dudalen Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb