Thema 2: Rheoli Honiadau a Phryderon am Oedolion sy'n gweithio gyda Phlant

thema 2

Rydym eisiau:

Amddiffyn plant drwy sicrhau bod unrhyw bryderon diogelu yn cael eu cymryd o ddifri ac yn cael sylw’n gyflym.

Gwneud yn siŵr bod Cyngor Gwynedd, Yr Heddlu a’r Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda’i gilydd wrth ymateb i bryderon am oedolion sy’n gweithio gyda phlant.

Beth mae adroddiad Cyfiawnder drwy ein Dewrder yn ei ddweud?

(Hon ydi’r adroddiad gafodd ei chyhoeddi yn dilyn ymchwiliad Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru i droseddau y cyn-bennaeth. (Gweld yr adroddiad)

  • Roedd hi’n anodd dod o hyd i’r ffurflen ar gyfer cyfeirio pryderon diogelu ar y wefan, ac roedd y ffurflen yn anodd i’w ddefnyddio. 

  • Ni wnaeth gweithwyr proffesiynol adrodd am eu pryderon. 

  • Ni chafodd gwybodaeth ei rannu gyda gweithwyr proffesiynol yn y ffyrdd cywir nac ar yr adeg iawn.

  • Nid oedd pob gweithiwr proffesiynol yn deall y maes yn ddigonol, nac yn deall beth oedd angen ei wneud i ymateb i bryderon diogelu. 

  • Nid oedd gwybodaeth diogelu blaenorol yn cael ei ystyried bob tro wrth wneud penderfyniadau.
  • Roedd cynghorau yn anghytuno ar beth ddylai ddigwydd pan oedd pryderon am faterion diogelu yn codi. Nid oedd y bobl iawn yn mynd i’r cyfarfodydd i drafod diogelu ac nid oedd penderfyniadau bob amser yn cael eu rhannu.

 

Beth sydd wedi ei wneud i wella pethau

  • Mae’r daflen sy’n cael ei ddefnyddio i gofnodi trafodaethau a chyfarfodydd diogelu (‘Strategaeth Rhan 5’) wedi newid. Erbyn hyn, mae unrhyw wybodaeth diogelu blaenorol neu hanesyddol am y plentyn yn cael ei gofnodi a’i rannu.

  • Mae’r ffurflen ar gyfer cyfeirio honiadau o gamdriniaeth bellach ar gael yn fwy amlwg ar wefan y Cyngor ar y dudalen Cam-drin Plant

  • Mae’r Cyngor wedi gwneud yn siŵr bod pob ysgol yn y sir wedi derbyn copi o’r ffurflen ar gyfer cyfeirio honiadau o gamdriniaeth.

  • Mae’r Cyngor wedi addasu trefniadau fel nad ydi’r cyfrifoldeb am benderfyniadau diogelu yn disgyn ar un gweithiwr yn unig. Mae pob cyfeiriad yn cael ei  ddarllen gan y Tîm Derbyn Cyfeiriadau, gyda sgwrs wedyn yn cael ei chynnal gyda’r Swyddogion Diogelu.

  • Creu Tîm Diogelu a Llesiant i ymweld a chefnogi ysgolion. 


Beth fydd Cyngor Gwynedd yn ei wneud rhwng mis Ionawr 2026 a mis Gorffennaf 2026?

Bydd Cyngor Gwynedd yn:

  • Gwneud yn siŵr bod gan y Gwasanaeth Adnoddau Dynol restr o staff Cyngor Gwynedd sydd wedi bod yn destun  pryderon diogelu (drwy’r drefn sydd yn cael ei hadnabod fel ‘Rhan 5’).

  • Gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i edrych ar ffyrdd o  gryfhau’r cyd-weithio.

  • Recriwtio Swyddog Dynodedig Diogelu (Designated Officer for Safeguarding neu DOS) ychwanegol i helpu efo’r gwaith o dderbyn pryderon am gam-drin plant. 

  • Cyflwyno trefniadau cydweithio cryfach rhwng gweithwyr Adran Plant a gweithwyr Adran Addysg Cyngor Gwynedd.

Beth fydd Cyngor Gwynedd yn ei wneud erbyn mis Chwefror 2027

  • Bydd trefn newydd ar gyfer gwirio bod y gwaith mae’r Adran Plant a Chefnogi Teulu yn ei wneud o ansawdd. Fel rhan o’r drefn newydd, bydd disgwyliad i’r Cyngor adolygu pa swyddogion sy'n mynychu trafodaethau diogelu (strategaeth “Rhan 5”) ac ansawdd y cofnodion sy’n cael eu cadw wrth wneud penderfyniadau am ddiogelu.
  • Ei gwneud yn haws i adrodd pryder drwy greu ffurflen gyfeirio ddigidol ar wefan y Cyngor, fel nad oes rhaid lawrlwytho ffurflen PDF a’i hanfon dros e-bost. Mae cynllun ehangach hefyd ar waith i gyflwyno un ffurflen gyfeirio genedlaethol ar gyfer holl gynghorau Cymru.

Sut fydd Cyngor Gwynedd yn mesur effaith y newidiadau

  • Adolygiad rheolaidd gan y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol o'r cyfeiriadau diogelu plant ("Rhan 5") sy'n cael eu gwneud. 
  • Casglu, dadansoddi ac adrodd ar dystiolaeth o hyder staff sydd yn ymwneud â phenderfyniadau diogelu (“Rhan 5”).

Yn ôl i brif dudalen Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb