Cais mynediad dosbarth Meithrin

Mae gan blant sy’n 3 oed cyn 1 Medi hawl i addysg rhan-amser mewn ysgol gynradd (dosbarth Meithrin). Mwy o wybodaeth 

Rhaid gwneud cais cyn 1 Chwefror 2024 (ar gyfer Medi 2024). 

Cyn llenwi’r ffurflen gais:

Gwneud cais mynediad Dosbarth Meithrin

(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)


Beth fydd yn digwydd nesaf?

Byddwch yn cael eich hysbysu am y canlyniad ar 16 Ebrill.

Os ydych wedi gwneud cais am le yn Ysgol Santes Helen neu Ysgol Ein Harglwyddes byddwn yn gyrru eich cais ymlaen atyn nhw.  Y nhw sydd yn gyfrifol am eu trefniadau mynediad eu hunain ac yn arbenigo mewn darparu addysg Gatholig. Mae’n bosib y byddant yn cysylltu â chi am ragor o wybodaeth er mwyn gallu prosesu eich cais e.e. ydi eich plentyn wedi ei fedyddio yn Gatholig a’i peidio.

 

Gweld neu ddiweddaru cais

I weld neu ddiweddaru cais rydych wedi ei gyflwyno, ewch i’ch cyfrif Cyngor Gwynedd ar-lein a chlicio ar ‘Fy ngheisiadau’. Mynd i Fy Nghyfrif

 

Ceisiadau hwyr

Mae angen gwneud y cais am le mewn dosbarth Meithrin cyn 1 Chwefror 2024 (ar gyfer Medi 2024). Mae'n bosib gwneud cais ar ôl y dyddiad yma, ond bydd yn cael ei ystyried fel cais hwyr ac mae'n bosib na fyddwch yn eich hysbysu am y canlyniad ar 16 Ebrill. 


Mwy o wybodaeth

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn y Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni / Polisi mynediad ysgolion Gwynedd 

Neu cysylltwch â ni: 

  • mynediadysgol@gwynedd.llyw.cymru 
  • 01286 679904.

Ni all yr Awdurdod drafod argaeledd llefydd mewn unrhyw ysgol dros y ffôn. 

NODER: Disgwylir bod pob plentyn yn gallu ddefnyddio'r toiled cyn cychwyn yn yr ysgol, oni bai bod ganddynt gyflwr meddygol neu anghenion dysgu ychwanegol.   

Cymorth gyda thoiledu a mwy o wybodaeth  

Close