Toiledu - cefnogi eich plentyn
Ydi ceisio cael y bychan i ddechrau mynd i’r toilet ei hunain yn achosi pryder i chi?
Mae mynd i'r toiled yn garreg filltir fawr i blant ifanc. Mae'n bwysig annog y plentyn a bod yn amyneddgar gyda nhw. Mae pob plentyn yn datblygu ar ei gyflymder ei hun, felly ceisiwch aros yn bositif ac yn gyson.
Dyma adnoddau a gwybodaeth i'ch cefnogi chi a'r plentyn:
Gwrandewch ar bodlediad 'O'r Napi i'r Poti' gan Teulu Gwynedd am sgwrs ddifyr gyda rhieni sydd yn rhannu eu profiadau, a phobl broffesiynol sy'n cynnig arweiniad ac atebion i gwestiynau cyffredin:
Podlediad O'r Napi i'r Poti
Gwefannau sydd yn cynnig awgrymiadau a chyngor ar gyfer hyfforddiant poti.
Dechrau'r ysgol
Disgwylir bod eich plentyn yn gallu ddefnyddio'r toiled cyn cychwyn yn yr ysgol, oni bai bod gan eich plentyn gyflwr meddygol neu anghenion dysgu ychwanegol.
Cyn dechrau yn yr ysgol mae disgwyl i'r plentyn:
- Allu dweud wrth oedolyn pryd mae angen iddynt ddefnyddio'r toiled.
- Gallu defnyddio'r toiled gyda chymorth lleiaf posibl.
- Gallu rheoli eu dillad (tynnu trowsus i fyny/i lawr).
- Bod yn gyfarwydd â sychu a hylendid sylfaenol, fel golchi dwylo.
Gweld llawlyfr Gwybodaeth i Rieni / Polisi mynediad ysgolion Gwynedd
Canllawiau ac Adnoddau ADY (anghenion dysgu ychwanegol)
Ddim yn hollol yno eto?
Mae hynny'n iawn! Os yw'ch plentyn yn dal i weithio ar eu sgiliau toiled, rydym yn eich annog i gysylltu â:
Pecynnau Cymorth Toiledu
Mae gan Teulu Gwynedd becynnau cymorth toiledu ar gael i rieni a gwarchodwyr. Os ydych eisiau pecyn, cysylltwch â:
Close
Helpu'n gilydd!
Helpwch ni ledaenu’r neges drwy rannu tudalen hon ar eich cyfryngau cymdeithasol.
Gyda'n gilydd, gallwn helpu i sicrhau bod toiledu yn broses bositif ac yn rhoi dechrau hyderus a hapus i blentyn.