Fforwm Mynediad Ysgolion Gwynedd

Mae gan fforymau derbyn rôl allweddol o ran sicrhau system dderbyn deg sy’n hyrwyddo tegwch cymdeithasol

Rhaid i fforymau derbyn:

  • Ystyried i ba raddau y mae’r trefniadau derbyn sydd ar gael eisoes a’r rhai a gynigir er budd y plant a’r rhieni yn ardal yr ALl.
  • Hyrwyddo cytundeb ynglŷn â materion derbyn.
  • Ystyried pa mor gynhwysfawr a hwylus yw’r llenyddiaeth a’r wybodaeth ynglŷn â derbyn a gynhyrchir ar gyfer rhieni gan bob awdurdod derbyn yn ardal y fforwm.
  • Ystyried pa mor effeithiol yw’r trefniadau derbyn cydlynol a gynigir gan yr ALl.
  • Ystyried sut y gellid gwella’r gweithdrefnau derbyn ac i ba raddau y mae’r nifer a dderbynnir mewn gwirionedd yn cyfateb i’r niferoedd derbyn a gyhoeddwyd.
  • Monitro nifer y plant sy’n cyrraedd ardal yr ALl y tu allan i’r rownd derbyn arferol.
  • Hyrwyddo’r trefniadau i blant ag AAA, plant mewn gofal a phlant sydd wedi’u gwahardd o’r ysgol.
  • Ystyried unrhyw faterion eraill sy’n codi ynglŷn â derbyn.