Ysgol Llanaelhaearn

Ar ddydd Mawrth 19 Mai 2020, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Gwynedd yn derfynol y cynnig i gau Ysgol Llanaelhaearn ar 31 Awst 2020 a chynnig lle i ddisgyblion yn Ysgol Bro Plenydd ar 1 Medi 2020. Cynhaliwyd cyfnod gwrthwynebu statudol rhwng 5 Mawrth a 3 Ebrill 2020. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig.   

Mae’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 19 Mai 2020 yn ymhelaethu ar y cefndir, yr ymgynghori a’r broses statudol. Mae’r adroddiad wedi ei gyhoeddi ar dudalen y Cabinet 19 Mai 2020 (eitem 6). 

Yn dilyn ystyriaeth fanwl o’r cynnig, penderfynodd Cabinet Cyngor Gwynedd i:
“gadarnhau’n derfynol i gau Ysgol Llanaelhaearn ar 31 Awst 2020 a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol Bro Plenydd, Y Ffôr o 1af Medi 2020, yn unol ag Adran 53 o’r Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 11/2018.” 

Yn unol â hyn, daeth penderfyniad y Cabinet yn weithredol ar 3 Mehefin 2020 ac mi gyhoeddwyd a cylchredwyd llythyr penderfyniad i’r holl ran-ddeiliaid.

Mae’r newidiadau addysgol bellach wedi ei weithredu yn yr ardal a bu i Ysgol Llanaelhaearn gau ar 31 Awst 2020.

 

Gwybodaeth pellach:

 

Yn dilyn cynnal cyfnod o ymgynghori statudol yn ymwneud ag Ysgol Llanaelhaearn, adroddwyd i Gabinet y Cyngor ar 18 Chwefror 2020.


Penderfynodd y Cabinet:

  1. Cymeradwyo’r cynnig i gau Ysgol Llanaelhaearn ar 31 Awst 2020, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Bro Plenydd, Y Ffôr o 1 Medi 2020.
  2. Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig yn (i) uchod yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
  3. Cymeradwyo trefniadau cludiant ar gyfer y cyfnod trawsnewidiol yn unig, pryd bydd cludiant di-dâl i’r disgyblion hynny sydd wedi cofrestru yn Ysgol Llanaelhaearn ar hyn o bryd, i Ysgol Bro Plenydd, Y Ffôr neu Ysgol Chwilog yn benodol, os yn byw dros 2 filltir i’r ysgol a ddewisir, neu yn derbyn cludiant am ddim oherwydd natur y ffordd yn unol â pholisi cludiant cyfredol Cyngor Gwynedd.

 

Yn unol â’r penderfyniadau uchod, cyhoeddwyd Rhybudd Statudol ar 5 Mawrth 2020.

Gall unrhyw un wrthwynebu'r cynnig o fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi'r rhybudd hwn, hynny yw erbyn 3 Ebrill 2020.

Dylid anfon gwrthwynebiadau ysgrifenedig at sylw’r Pennaeth Addysg:

Cyngor Gwynedd, 
Swyddfa’r Cyngor, 
Caernarfon, 
Gwynedd, 
LL55 1SH

neu drwy anfon neges e-bost at sylw’r Pennaeth Addysg: 
moderneiddioaddysg@gwynedd.llyw.cymru 

Cynhaliwyd cyfnod ymgynghori statudol ar y cynnig i gau Ysgol Llanaelhaearn ar 31 Awst 2020, a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol Bro Plenydd, Y Ffôr o 1 Medi 2020 rhwng 16 Rhagfyr 2019 – 29 Ionawr 2020. 

Cyhoeddwyd yr adroddiad ymgynghori ar wefan y Cyngor ar y 11 Chwefror 2020, ac ar 18 Chwefror 2020 penderfynodd Cabinet Cyngor Gwynedddderbyn y sylwadau yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol ynghyd a chytuno i:

  1.  Cymeradwyo’r cynnig i gau Ysgol Llanaelhaearn ar 31 Awst 2020, a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Bro Plennydd, Y Ffôr o 1 Medi 2020.
  2.  Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig yn (1) yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
  3. Cymeradwyo trefniadau cludiant ar gyfer y cyfnod trawsnewidiol yn unig, pryd bydd cludiant di-dâl i’r disgyblion hynny sydd wedi cofrestru yn Ysgol Llanaelhaearn ar hyn o bryd, i Ysgol Bro Plenydd, Y Ffôr neu Ysgol Chwilog yn benodol, os yn byw dros 2 filltir i’r ysgol a ddewisir, neu yn derbyn cludiant am ddim oherwydd natur y ffordd yn unol â pholisi cludiant cyfredol Cyngor Gwynedd

Adroddiadau ac atodiadau:

Penderfynodd Cabinet Cyngor Gwynedd mewn cyfarfod ar 5 Tachwedd 2019 i ymgymryd â phroses ymgynghori statudol ar y cynnig i gau Ysgol Llanaelhaearn ar 31 Awst 2020 a chynnig lle i’r disgyblion yn Ysgol Bro Plenydd, Y Ffôr o 1 Medi 2020. 

Bydd y cyfnod o ymgynghori Statudol yn cael ei gynnal rhwng 16 Rhagfyr 2019 a 29 Ionawr 2020. 

Mae’r ddogfen ymgynghori statudol, pecyn cefndirol a’r holl ddogfennau perthnasol ar gael isod:

Os ydych angen copïau caled o unrhyw ddogfen mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio (01286) 679247 neu e-bostiwch moderneiddioaddysg@gwynedd.llyw.cymru

Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd lleol gyda Corff Llywodraethol a budd-ddeiliaid perthnasol eraill Ysgol Llanaelhaearn, ac asesiad manwl o'r opsiynau posibl, yn ei gyfarfod ar 5 Tachwedd 2019 bu i Gabinet Cyngor Gwynedd benderfynu i gychwyn cyfnod o ymgynghori statudol ar y cynnig i gau Ysgol Llanaelhaearn ar 31 Awst 2020 ac i ddarparu lle i’r disgyblion yn Ysgol Bro Plenydd, Y Ffôr. Mae hyn yn sgil cwymp sylweddol yn niferoedd y disgyblion, gyda dim ond wyth o blant yn mynychu’r ysgol ym mis Medi 2019. Mae’r niferoedd hyn wedi disgyn yn gyson ers 2012, pan oedd 42 o blant yn mynychu’r ysgol. 

Rhagwelir y bydd y cyfnod ymgynghori statudol yn dechrau yn yr wythnosau nesaf. 

Ar 4 Mehefin 2019, bu i Gabinet Cyngor Gwynedd gymeradwyo penderfyniad i’r Adran Addysg gynnal cyfarfodydd ffurfiol gyda Chorff Llywodraethol a rhan-ddeiliaid perthnasol eraill Ysgol Llanaelhaearn, i drafod opsiynau posibl ynghylch dyfodol yr ysgol yn sgil cwymp sylweddol yn y nifer o ddisgyblion ar y gofrestr.

Cynhaliwyd y cyfarfod lleol cyntaf ar 24 Mehefin 2019 ac mae trafodaethau yn parhau.

Gweld adroddiad Cabinet