Y Cabinet

Mae'r Cabinet yn cynnwys 10 Cynghorydd ac yn cael ei gadeirio gan Arweinydd y Cyngor. Mae gan bob un o’r Aelodau bortffolio penodol o gyfrifoldeb am feysydd o fewn gwasanaethau’r Cyngor.


Blaenraglen waith

Mae blaenraglen waith y Cabinet yn cael ei chyhoeddi bob chwarter er mwyn rhoi rhybudd ymlaen llaw am yr hyn fydd yn cael ei drafod a’i benderfynu gan y Cabinet. Mae hon yn ddogfen 'fyw' gydag eitemau yn cael eu hychwanegu yn gyson yn ôl yr angen.

Rhaglenni a chyfarfodydd y Cabinet

Mae'r rhaglenni yn cynnwys adroddiadau ac atodiadau am yr eitemau sy'n cael eu trafod yn y cyfarfodydd: 

Mae'r rhaglenni hefyd ar gael yn Siop Gwynedd, Caernarfon 5 diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

Mae cyfarfodydd y Cabinet ar agor i’r cyhoedd ac aelodau’r wasg (ag eithrio eitemau eithriedig). Gallwch hefyd wylio’r cyfarfod yn fyw neu wylio cyfarfodydd y Cabinet sydd wedi’u harchifo


Taflenni penderfyniad 

Mae dau fath o daflen benderfyniad:

Taflenni penderfyniad sy’n gofnod o benderfyniad a wnaed gan Aelodau’r Cabinet mewn cyfarfod ffurfiol o’r Cabinet. 

Taflenni Penderfyniad y Cabinet

Taflenni Penderfyniad Aelodau Unigol


Aelodau'r Cabinet

Aelodau'r Cabinet
Aelod CabinetDeilydd

Arweinydd y Cyngor

Dyfrig Siencyn                                

Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros faterion

gweithredol economi a phrif rhaglenni trawsadrannol

Nia Jeffreys 

Cefnogaeth Gorfforaethol Menna Trenholme 
Addysg Beca Brown
Cyllid Paul Rowlinson 
Amgylchedd Dafydd Meurig
Oedolion, Iechyd a Llesiant Dilwyn Morgan
Plant a Theuluoedd Elin Walker Jones
Tai Craig ab Iago

Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac

Ymgynghoriaeth Gwynedd

Berwyn Parry Jones