Yn dilyn cyflwyno cais am gyllid o gynllun Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru i ychwanegu dosbarthiadau i Ysgol Chwilog, Ysgol Llanllechid ac Ysgol Bro Lleu, i ymateb i rhagamcanion cynnydd yn niferoedd plant cynradd y dalgylch o ganlyniad i ddatblygiadau tai, cyflwynwyd adroddiad i Cabinet ar 19 Gorffennaf 2022 yn gofyn am ganiatâd i gyflwyno achosion busnes llawn gerbron Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau’r cyllid o’r Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg ar gyfer cyflawni dibenion y prosiectau isod:
a) Prosiect 1 – Buddsoddi dros £1.1m i gynyddu capasiti a gwella amgylchedd dysgu Canolfannau Iaith Gwynedd - Yr ail wedd.
b) Prosiect 2 – Buddsoddi dros £1.5m cyfalaf a £0.3m refeniw i gynyddu capasiti 3 ysgol (Llanllechid, Bro Lleu a Chwilog) er mwyn cefnogi cymunedau Cymraeg o arwyddocâd ieithyddol (h.y. cymunedau gyda dros 70% o siaradwyr Cymraeg) i ffynnu.
Yn ogystal, gofynnwyd am ganiatâd y Cabinet i gynnal ymgynghoriad statudol ar y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Chwilog i 95, sef cynnydd o dros 25% o’r capasiti presennol, yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, gan adrodd yn ôl i Gabinet yn dilyn cwblhau’r ymgynghoriad.
Yn dilyn ystyried yr adroddiad bu i’r Cabinet gymeradwyo y cynigion.