Cinio ysgol / clwb brecwast

Clwb brecwast

Dim ond rhai o ysgolion cynradd y sir sy'n cynnal clybiau brecwast. Cysylltwch â'ch ysgol i gael gwybod mwy am eich ysgol chi.

Rhaid talu £1 y plentyn am yr elfen gofal plant cyn y clwb brecwast. Rhaid talu £1 am eich plentyn cyntaf ac ail blentyn. Mae disgownt ar gyfer teuluoedd o 3 neu fwy o blant cynradd sy’n defnyddio’r clwb gofal cyn-ysgol.

£2 y dydd yw'r mwyafrif bydd rhiant yn ei dalu. 

Rhaid archebu lle yn y clwb trwy eich cyfrif Cyngor Gwynedd ar-lein.

 

Cinio Ysgol 

Pris cinio ysgol gynradd: 2 gwrs - £2.50 y dydd.

Talu cinio ysgol gynradd ar-lein

Canllawiau i rieni: Gwneud taliadau ysgol ar-lein


Ysgolion uwchradd
: Prisiau yn amrywio - cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol



Cinio ysgol am ddim

O mis Ionawr 2023, bydd pob ysgol gynradd yng Ngwynedd yn cynnig prydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2

Erbyn 2024, bydd pob plentyn ysgol gynradd gwladol yng Nghymru yn cael prydau ysgol am ddim.

Mae cinio ysgol am ddim hefyd ar gael ar gyfer rhai disgyblion o deuluoedd incwm isel. Am fwy o wybodaeth, ewch i’r dudalen Cinio am ddim

Os ydych yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau cymhwyso, dylech dal i gofrestru ar gyfer cinio ysgol am ddim drwy’r Awdurdod Lleol oherwydd efallai y bydd gennych hawl i grantiau fel gwisg ysgol a chitiau Addysg Gorfforol

 

Beth sydd i ginio?

Ysgolion cynradd 

Ysgolion uwchradd

  • mae holl ysgolion uwchradd y sir yn cynnig amrywiaeth o fwydydd ffres oer a phoeth pob dydd. 

Llefrith

Mae traean o beint o lefrith yn cael ei roi am ddim bob dydd i:

  • ddisgyblion o dan 5 oed

  • ddisgyblion Cyfnod Allweddol 1 (Menter Cynulliad Cenedlaethol Cymru)

  • ddisgyblion ysgolion arbennig

  • unrhyw ddisgybl mewn ysgol gynradd sydd angen llefrith ar sail meddygol pan fo tystysgrif wedi’i chyflwyno gan y Swyddog Meddygol Ysgolion.

Mae disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn gallu prynu traean o beint o lefrith am 10c.

 

Disgyblion sy’n dod â'u brechdanau eu hunain

Mae cwpan, plât a dŵr yn cael eu darparu ar gyfer plant sy'n dymuno dod a'u bwyd eu hunain.

 

Bwyta’n iach

Mae holl ysgolion Gwynedd yn rhan o’r cynllun ysgolion iach. Mae gwybodaeth am hyn ar gael ar wefan Ysgolion Iach Gwynedd.