Help i dalu am ofal plant
Mae'n bosib y gallwch gael help i dalu am ofal plant os ydych yn defnyddio darpariaeth gofal plant sydd wedi cofrestru, er enghraifft
- gwarchodwr plant, meithrinfa, cylchoedd meithrin, cynllun chwarae neu glwb
- gwarchodwr plant gydag asiantaeth gwarchod plant gofrestredig neu asiantaeth gofal plant
Dyma beth a allai fod ar gael i chi:
-
Grant Datblygu Plentyn: - Gofal Plant wedi ei ariannu i blant 2 ½ - 3oed. Ar gyfer plant gyda dyddiad geni rhwng 01.01.2019 – 31.03.2019
- Cynllun gofal plant di-dreth: Help gyda chostau gofal plant i deuluoedd sy’n gweithio.
-
Dechrau'n Deg: Mae hyd at 12.5 awr o ofal plant ar gael ar gyfer plant rhwng 2-3 oed am ddim yn ystod y tri thymor ysgol os yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg. Defnyddiwch y gwiriwr cod post i weld os ydych chi'n gymwys am y cynllun ai peidio.
- Cynnig Gofal Plant Cymru: Gall rhieni i blant 3 a 4 oed sy’n gweithio ac sy’n gymwys gael hyd at 30 awr o addysg a gofal plant.
- Credyd Treth Plant: Help i deuluoedd sy’n gweithio ac sydd ar incwm isel.
- Credyd Treth Gwaith: Help i deuluoedd sy’n gweithio ac sydd ar incwm isel.
- Credyd Cynhwysol: Budd-dal ar gyfer pobl heb waith neu ar incwm isel.
- Cyllid Myfyrwyr Cymru: Mae’n bosib y gall myfyrwyr mewn addysg uwch sy’n gymwys hawlio cymhorthdal gofal plant yn ddibynnol ar y cwrs maen’t yn ei wneud.
Mae hefyd yn bosib y gall myfyrwyr mewn addysg bellach yng Nghymru hawlio cymorth gyda chostau gofal plant gan y Gronfa Wrth Gefn Ariannol. Gofynnwch am wybodaeth yn swyddfa cymorth i fyfyrwyr eich coleg.
- Rhieni, gofal plant a chyflogaeth (PaCE): Cymorth i rieni cymwys sydd heb waith ac sy’n ei chael hi’n anodd dechrau hyfforddiant neu waith oherwydd gofal plant.
- Credydau Yswiriant Cenedlaethol: Os ydych yn daid neu’n nain neu aelod arall o’r teulu yn gofalu am blentyn o dan 12 oed, fel arfer tra bo’r rhiant neu’r prif ofalwr yn gweithio.
Am gyngor pellach cysylltwch a Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd: