Gall teuluoedd sydd yn byw o fewn codau post penodol dderbyn hyd at 12.5 awr o Ofal Plant am ddim y tymor ar ôl i'r plentyn gael ei benblwydd yn 2 oed.
Lle mae'r cynllun Gofal Plant 2 oed ar gael?
Mae eich hawl i fanteision ar y Cynllun yn dibynnu ar eich côd post. Rhowch eich côd post yn y blwch isod i weld os ydych chi'n gymwys am y cynllun:
Darpariaethau sydd yn cynnig Gofal Plant 2 oed ar hyn o bryd:
Bydd manylion a gwybodaeth darpariaethau gofal plant a fydd yn cynnig gofal plant 2 oed yn cael ei ychwanegu yma'n fuan.
Pryd all plentyn dderbyn gofal plant 2 oed?
Gall plentyn dderbyn gofal plant 2 oed y tymor ysgol ar ôl iddynt troi yn 2 oed.
Gofal Dechraiu'n Deg
Dyddiad mae'r plentyn yn troi yn 2 oed | Dyddiad gall plentyn ddechrau dderbyn gofal plant 2 oed |
1 Medi i 31 Rhagfyr |
Dechrau tymor y gwanwyn |
1 Ionawr i 31 Mawrth |
Dechrau tymor yr haf |
1 Ebrill i 31 Awst |
Dechrau tymor yr hydref |
Gweld dyddiadau tymor ysgol Gwynedd
Gwneud cais
Mae'n bosib cyflwyno cais ar gyfer Gofal Plant 2 oed unwaith mae eich plentyn yn 12 mis oed.
Gwneud cais am Ofal Plant 2 oed
Wrth gyflwyno'r cais bydd gofyn i chi atodi dogfennau (llun / sgan) fel tystiolaeth o oed a chyfeiriad y plentyn. Bydd angen atodi:
- tystysgrif geni eich plentyn, a
- bil Treth Cyngor cyfredol, NEU fil cyfleustodau wedi ei ddyddio o fewn y 3 mis diwethaf.
Mwy o wybodaeth / cysylltu â ni: