Cynnig Gofal Plant Cymru
Beth yw'r cynnig?
- Gall plant sy'n gymwys gael yr hawl i hyd at 20 awr o ofal plant sy'n cael ei gyllido gan y Llywodraeth yn ystod tymor yr ysgol, yn ychwanegol at y 10 awr o Addysg Feithrin sy'n cael ei ddarparu'n barod.
- Yn ystod hyd at 9 wythnos o wyliau'r ysgol, gall rhieni dderbyn hyd at 30 awr o ofal plant.
- Gall rhieni ddewis unrhyw leoliad gofal plant cofrestredig sydd yn addas i’w hamgylchiadau personol a theuluol, boed yn y sir neu’r tu allan, trwy gytuno gyda’r darparwr a’r awdurdod lleol. Nid oes rhaid i’r gofal plant gael ei roi gan yr un darparwr â’r ddarpariaeth Addysg Feithrin.
- Gall plant sy'n gymwys dderbyn y cynnig; tan y mis Medi yn dilyn eu pedwerydd pen-blwydd, pan fyddant yn cychwyn ar addysg llawn amser.
Pryd mae eich plentyn yn dechrau ar y cynnig
Mae'ch Plentyn yn troi'n 3 rhwng? | Gall eich Plentyn ddechrau ar y cynnig o; |
1 Medi i 31 Rhagfyr |
Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Ionawr |
1 Ionawr i 31 Mawrth |
Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Ebrill |
1 Ebrill i 31 Awst |
Dechrau’r tymor ar neu ar ôl 1 Medi |
Sut i wneud cais?
Os ydych yn cwrdd â'r meini prawf uchod, dilynwch y ddolen isod i wneud cais:
Cael 30 awr o ofal plant ar gyfer plant 3 a 4 oed: Gwneud cais | LLYW.CYMRU
Mwy o wybodaeth:
Gwybodaeth i Ddarparwyr Gofal Plant
Gwybodaeth i Rieni a Gofalwyr
Mwy o wybodaeth am y Cynnig:
Neu, cysylltwch â ni:
Y rhieni sy’n gyfrifol am ddod o hyd i ofal plant sydd yn cwrdd â’u hanghenion; fodd bynnag, gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i deuluoedd roi manylion am y gofal plant sydd ar gael yn eich ardal. Cysylltwch naill ai â:
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd