Cartref > Trigolion > Iechyd a gofal cymdeithasol > Hwb teuluoedd > Gofal Plant Dechrau'n Deg
DecgrauD
      

Gofal Plant Dechrau'n Deg

Mae Dechrau’n Deg yn cynnig hyd at 12.5 awr yr wythnos o ofal plant o ansawdd uchel am ddim i blant rhwng 2 a 3 oed yn ystod tri tymor ysgol. Bydd plant yn gallu cychwyn y tymor yn dilyn eu penblwydd yn 2 oed. 


Lle mae Dechrau'n Deg ar gael?

Mae eich hawl i fanteision y Cynllun yn dibynnu ar eich cod post. Rhowch eich cod post yn y blwch isod i weld os ydych chi'n gymwys am y cynllun ai peidio:

 

 

 

Mae 14 darpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg yng Ngwynedd

Lleoliad: Cylch Meithrin Caban Cegin, Caban Ysgol Glancegin, Maesgeirchen, Gwynedd, LL57 1ST
Oriau agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am –11:30am a 12:30pm–3pm
Rhif Ffôn: 01248 352130
E-bost: cabancegin@btconnect.com

Taith 360 o gwmpas Cylch Caban Cegin


Arweinydd: Lowri Ogwen

LowriOgwen1

Fy enw i yw Lowri Ogwen ac rwyf wedi cwblhau NVQ lefel 5 gofal plant, yn ogystal â graddio gyda BA yn y Blynyddoedd Cynnar.  Rwyf wedi gweithio yn y maes gofal plant ers 19 mlynedd yn gweithio mewn gwahanol feithrinfeydd ac ysgolion, ond bellach wedi bod yn gweithio yng Nghaban Cegin ers rhai blynyddoedd. Rwy'n mwynhau gwylio plant yn bod yn greadigol, brwdfrydig ac yn cyrraedd eu llawn potensial. 

Gweld Adroddiad Arolygiaeth Gofal Plant Cylch Caban Cegin

Lleoliad: Cylch Meithrin Maesincla, Safle Plas Pawb, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1DF
Oriau agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am-11:30am a 12:30pm-3pm
Rhif Ffôn: 01286 662442
E-bost: cylchmaesinclanicola.jones@yahoo.com

Taith 360 o gwmpas Cylch Maesincla

Arweinydd: Nicola Hughes

Nicola Hughes1
Fy enw i yw Nicola Hughes ac mae gen i gymhwyster NVQ Lefel 4 mewn Gofal ac Addysg Blynyddoedd Cynnar. Rwyf wedi gweithio yn y maes gofal plant ers 25 mlynedd yn gweithio fel cymhorthydd yn Ysgol Maesincla cyn symud ymlaen i fod yn Arweinydd Cylch Maesincla. Rwy'n mwynhau gweld y plant yn dysgu a datblygu trwy wneud gweithgareddau hwylus ac addysgol hefo ein staff brwdfrydig ac egnïol. 

Gweld Adroddiad Arolygiaeth Gofal Plant Cylch Maesincla

Lleoliad: Cylch Meithrin Seiont a Pheblig, Canolfan Noddfa, Cil Peblig, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2RS
Oriau agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9:10am–11:40am, a 12:15pm–2:45pm
Rhif Ffôn: 07780112956
E-bost: seiont.apheblig@yahoo.com

Taith 360 o gwmpas Cylch Seiont a Pheblig

Arweinydd: Karen Evans

KarenEvans1

Fy enw i yw Karen Evans ac mae gen i gymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant. Rwyf wedi gweithio yn y maes gofal plant ers 19 mlynedd yn gweithio fel Cymhorthydd 1 i 1, is-Arweinydd ac Arweinydd mewn nifer o Gylchoedd gwahanol. Rwy'n mwynhau gweld yr holl blant yn mwynhau dysgu yn yr awyr agored a’n datblygu sgiliau iaith trwy chwarae. 

Gweld Adroddiad Arolygiaeth Gofal Plant Cylch Seiont a Pheblig

Lleoliad: Meithrinfa Plas Pawb, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1DF
Oriau agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8:45am-11:15am, a 12:30pm-3pm
Rhif Ffôn: 01286 678824
E-bost: ZaraElizabethKhan@gwynedd.llyw.cymru

Taith 360 o gwmpas Meithrinfa Plas Pawb


Arweinydd: 
Zara Khan

ZaraKhanLlun1

Fy enw i yw Zara Khan ac mae gen i gymhwyster Lefel 4 mewn Blynyddoedd Cynnar ac Addysg. Rwyf wedi gweithio yn y maes gofal plant ers 15 mlynedd yn gweithio yng Nghylch Meithrin Twtil, Clwb ar ôl Ysgol Santes Helen, fel is-arweinydd clwb ar ôl ysgol / clwb gwyliau Babinogion cyn symud ymlaen i fod yn Rheolwraig Meithrinfa Plas Pawb. Rwy'n mwynhau darparu amgylchedd cyfeillgar, glân, cyfforddus a diogel fydd yn symbylu ac yn herio plant, ac sy’n cysylltu mwynhad a hwyl gyda darganfod a dysgu. 

Gweld Adroddiad Arolygu Gofal Plant Meithrinfa Plas Pawb

Lleoliad: Cylch Talysarn, Adeilad Dechrau’n Deg, Ffordd yr Orsaf, Talysarn, LL54 6ND
Oriau agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8:45am–11:15am
Rhif Ffôn: 01286 880 302
E-bost: cylchtalysarn@yahoo.co.uk

Taith 360 o gwmpas Cylch Talysarn

Arweinydd: Tracey Lee Jones

TraceyJones1

Fy enw i yw Tracey Lee Jones ac mae gen i gymhwyster CACHE Lefel 3, Diploma mewn Nyrsio Meithrin. Rwyf wedi gweithio yn y maes gofal plant ers dros 30 mlynedd yn gwneud amryw o swyddi gwahanol megis bod yn Arweinydd Cylch, Gwarchodwraig a Chymhorthydd mewn gwahanol ysgolion. Rwy'n mwynhau gwylio plant yn dysgu a datblygu yn yr awyr agored. 

Gweld Adroddiad Arolygu Gofal Plant Cylch Talysarn

Lleoliad: Cylch Meithrin Carmel, Neuadd y Pentref, Carmel, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7AA
Oriau agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am–11:30am
Rhif Ffôn: 07391945494
E-bost: cylchcarmel@yahoo.co.uk

Taith 360 o gwmpas Cylch Carmel

 SamanthaHughes1

Arweinydd: Samantha Hughes

Fy enw i yw Samantha Hughes ac mae gen i radd sylfaen mewn Plentyndod Cynnar a Gofal Plant. Rwyf wedi gweithio yn y maes gofal plant ers 11 mlynedd yn gweithio fel cymhorthydd yn Ysgol Hafod Lon, gweithiwr cefnogol hefo Cyngor Gwynedd yn ogystal â gwneud nifer helaeth o wahanol gyrsiau. Rwy'n mwynhau gwylio personoliaethau plant yn tyfu a’n datblygu yn ystod eu cyfnod yn y Cylch. 

Gweld Adroddiad Arolygu Gofal Plant Cylch Carmel

Lleoliad: Cylch Meithrin Llanllyfni, Neuadd Goffa Llanllyfni, Ffordd Rhedyw, Llanllyfni, Gwynedd, LL54 6SG
Oriau agor: Dydd Llun – Dydd Gwener, 8:45am a 11:15am
Rhif Ffôn: 07816406162
E-bost: cylchllanllyfni@meithrin.co.uk

Taith 360 o gwmpas Cylch Llanllyfni


Arweinydd:
 Eirian Roberts

EirianRoberts1

Fy enw i yw Eirian Roberts ac mae gen i Radd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar a Chymorth Dysgu. Rwyf wedi gweithio yn y maes gofal plant ers 15 mlynedd yn gweithio fel cynorthwyydd dosbarth, mewn meithrinfeydd, yn ogystal â gweithio fel Arweinydd mewn sawl Cylch Meithrin gwahanol. Rwy'n mwynhau gweld plant yn datblygu i fod yn annibynnol ac yn ffynnu wrth wneud amryw o brofiadau gwahanol. 

Gweld Adroddiad Arolygu Gofal Plant Cylch Llanllyfni

Lleoliad: Cylch Meithrin Penygroes, Ysgol Bro Lleu, Ffordd y Brenin, Penygroes, Gwynedd, LL54 6RL
Oriau agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8:30am-11am
Rhif Ffôn: 07379599487
E-bost: cylch_penygroes@hotmail.co.uk

Taith 360 o gwmpas Cylch Penygroes


Arweinydd
, Bethan Jones

BethanJones1

Fy enw i yw Bethan Jones ac mae gen i Radd- Bagloriaeth Mewn Addysg. Rwyf wedi gweithio yn y maes gofal plant ers 21 mlynedd yn gweithio fel athrawes llanw yn ogystal â gweithio mewn sawl Cylch Meithrin gwahanol. Rwy'n mwynhau gwneud gweithgareddau hefo’r plant, rhoi gwahanol brofiadau iddynt a gwylio nhw’n datblygu yn addysgol ac yn gymdeithasol. 

Gweld Adroddiad Arolygu Gofal Plant Cylch Penygroes 

Lleoliad: Meithrinfa Ogwen, 3 Carneddi Road, Bangor, Gwynedd, LL57 3RU
Oriau agor: Dydd Llun – Dydd Gwener, 9am- 11:30am, a 1pm–3:30pm
Rhif Ffôn: 01248 605555
E-bost: post@meithrinfaogwen.co.uk

Taith 360 o gwmpas Meithrinfa Ogwen


Arweinydd:
 Lyn Morris

LynMorris1

Fy enw i yw Lyn Morris ac mae gen i gymhwyster CACHE Lefel 3, Diploma mewn Gofal Plant ac Addysg. Rwyf wedi gweithio yn y maes gofal plant ers 19 mlynedd ac wedi gwneud nifer helaeth o gyrsiau gwahanol megis Diogelu Plant, Diogelwch Bwyd, Makaton a llawer mwy. Rwy'n mwynhau gwylio’r plant yn dysgu gwahanol sgiliau megis sgiliau ieithyddol. 

Gweld Adroddiad Arolygu Gofal Plant Cylch Ogwen

Lleoliad: Cylch Meithrin Cefnfaes, Plas Ffrancon, Ffordd Newydd Coetmor, Bethesda, Bangor, LL57 3DT
Oriau agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am-11:30am, a 12:15pm–2:45pm
Rhif Ffôn: 07815085323
E-bost: cefnfaes@hotmail.com

Taith 360 o gwmpas Cylch Cefnfaes


Arweinydd:
 Lois Williams
LoisWilliams1

Fy enw i yw Lois Williams ac mae gen i gymhwyster NVQ Lefel 5 mewn Gofal Plant. Rwyf wedi gweithio yn y maes gofal plant ers 9 mlynedd yn gweithio fel ‘Nani’ a gweithio mewn dwy wahanol feithrinfa dydd cyn symud ymlaen i weithio yng Nghylch Cefnfaes. Rwy'n mwynhau gwybod fy mod wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau'r plant sy’n mynychu'r Cylch ac yn mwynhau gweld y plant yn datblygu yn ystod eu cyfnod yn y Cylch. 

 Gweld Adroddiad Arolygu Gofal Plant Cylch Cenfaes

Lleoliad:Caban Ogwen, Llanllechid, Bethesda, Bangor, Gwynedd. LL57 3EH
Oriau agor: Dydd Llun – Dydd Gwener, 9am-11.30am a 12:30pm-3pm
Rhif Ffôn : 07786855333
E-bostcabanogwen@meithrinfaogwen.co.uk

Taith 360 o gwmpas Caban Ogwen

Arweinydd: Sian Wyn Hughes

Sian Hughes

Fy enw i yw Sian Wyn Hughes ac mae gen i gymhwyster NVQ lefel 3 mewn Gofal Plant ac fel Gweithiwr Chwarae. Rwyf wedi gweithio yn y maes gofal plant ers bron i 18 mlynedd bellach yn gweithio fel arweinydd Cylch Meithrin Caban Ogwen, helpu allan yng Nghylch Meithrin Tregarth pan fo angen a’n gweithio fel cymhorthydd llanw yn Ysgol Abercaseg. Rwy’n mwynhau gweld y plant yn dod i’r Cylch bob bore ac yn hoffi gweld pob plentyn yn datblygu tra yn ein lleoliad.

Adroddiad Arolygiaeth Gofal Plant Cylch Caban Ogwen

Lleoliad: Meithrinfa Caban Bach, Rhes Meirion, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3UA
Oriau agor: Dydd Llun i Dgydd Gwener, 9am-11:30am, a 1pm-3pm
Rhif Ffôn: 01766 832561
E-bost: sian.michelmore@barnardos.org.uk

Taith 360 o gwmpas Meithrinfa Caban Bach


Arweinydd: 
Sian Michelmore

SianMichelmore1

Fy enw i yw Sian Michelmore ac mae gen i gymhwyster Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant. Rwyf wedi gweithio yn y maes gofal plant ers 17 mlynedd yn gweithio yn Caban Bach, ac wedi cael profiadau anhygoel wrth weithio yma megis cymryd rhan mewn rhaglenni teledu plant, mynd i Eisteddfodau a chymryd rhan mewn nifer o wahanol brosiectau. Rwy'n mwynhau gofalu a chwarae gyda’r plant ac mae'n bwysig i mi fod pob plentyn yn derbyn gofal o'r ansawdd gorau ac yn hapus yn ein Meithrinfa. 

Adroddiad Arolygiaeth Gofal Plant Meithrinfa Caban Bach

Lleoliad: Neuadd y Wi, Wynne Avenue, Blaenau Ffestiniog, LL41 3DN
Oriau agor: Dydd Llun – Dydd Gwener 9am-11:30am a  12:30pm-3pm
Rhif Ffôn: 07876 245610
E-bost: arweinyddllechi@outlook.com

Arweinydd: Sioned Rutigliano

SionedRutigliano1

Fy enw i yw Sioned Rutigliano ac mae gen i gymhwyster Diploma Lefel 3 mewn Datblygu Gofal Plant. Rwyf wedi gweithio yn y maes gofal plant ers 3 mlynedd ond wedi cymryd seibiant dros y blynyddoedd diwethaf ar gyfer magu fy mhlant a gweithio fel rheolwr tafarn. Rwy’n mwynhau gwylio’r plant yn dysgu pethau newydd a gweld eu hymennydd yn datblygu trwy chwarae. 

Adroddiad Arolygiaeth Gofal Plant Cylch Lle Chi

Lleoliad: Cylch Meithrin Dolgellau, Canolfan Deulu Dolgellau, Drill Hall, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1DE
Oriau agor: Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9:15am-11:45am, a 1:15pm–3.45pm
Rhif Ffôn: 01341 421 777
E-bost: ysgolmeithrindolgellau@hotmail.co.uk

Taith 360 o gwmpas Cylch Dolgellau


Arweinydd:
 Elizabeth Tomos

ElizabethTomos1

Fy enw i yw Elizabeth Tomos ac rwy’n gweithio tuag at fy NVQ Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Rwyf wedi gweithio yn y maes gofal plant ers 13 mlynedd yn gweithio fel athrawes gynradd cyn symud ymlaen i fod yn arweinydd Cylch Dolgellau. Rwy'n mwynhau gweithio gyda phlant a'u helpu i archwilio a datblygu sgiliau newydd. 

Adroddiad Arolygiaeth Gofal Plant Cylch Dolgellau