Ar y dudalen hon gallwch ddod o hyd i wybodaeth a chanllawiau i'ch cynorthwyo i gynllunio a threfnu eich digwyddiad yn y sir.
Cefnogaeth ymarferol
Byddwch angen gwneud cais am Rybudd Digwyddiad Dros Dro os yn cynnal ddigwyddiad ad-hoc a fydd yn cynnwys unrhyw un o'r isod yng Ngwynedd:
- gwerthu neu gyflenwi alcohol
- cynnal adloniant reoledig e.e. canu byw neu chwarae cerddoriaeth wedi ei recordio
- darparu bwyd poeth rhwng 11pm a 5am yng Ngwynedd.
I ddarparu lluniaeth yn hwyr y nos, adloniant rheoledig neu i werthu alcohol, mae arnoch angen trwydded oddi wrth yr awdurdod lleol os ydych yng Nghymru a Lloegr.
Mae trefnwyr digwyddiadau yn gyfrifol am sicrhau iechyd a diogelwch yr holl fynychwyr, staff a chontractwyr. Mae hyn yn cynnwys cynnal asesiadau risg addas a gweithredu mesurau rheoli priodol ar gyfer y peryglon sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad.
Bydd angen i chi gwblhau asesiad risg. Argymhellir eich bod yn cofnodi’r asesiad - .
https://www.hse.gov.uk/simple-health-safety/risk/index.htm
https://www.hse.gov.uk/event-safety/venue-site-design.htm
Dylid ystyried /sefydlu:
- Maint a phroffil disgwyliedig y dorf, math o ddigwyddiad ac a fydd pobl yn eistedd neu'n sefyll
- Fod gan y safle ddigon o le ar gyfer y cwsmeriaid a’r staff.
- Gofynion strwythurol pabelli (marquees) , llwyfannau , platfform a strwythurau cynnal eraill
- Sicrhau fod llwybrau mynediad ac allanfeydd brys clir er mwyn mynediad a gwagio diogel.
- Paratoi cynllun rheoli traffig a pharcio gan neilltuo ardaloedd i bobl gael eu codi/gollwng.
- Nodi a rheoli unrhyw beryglon safle (cyflwr y ddaear, cyrsiau dwr cyfagos ,llethrau, mannau gall eu effeithio wedi glaw trwm ee safleoedd parcio)
- Creu cynllun clir o’r safle sy'n dangos llwyfannau, ardaloedd, mynedfeydd, allanfeydd, a chyfleusterau.
- Sicrhau nad oes anifeiliaid wedi bod ar safle’r digwyddiad am o leiaf 4 wythnos cyn y digwyddiad.
- Sicrhau bod y tir a ddefnyddir ar gyfer digwyddiadau yn rhydd o faw anifeiliaid, yn enwedig mewn ardaloedd a ddefnyddir ar gyfer arlwyo.
- Lle bwriedir gosod reidiau neu strwythur dros dro fel castell gwynt bydd angen tag PIPA neu ddatganiad cydymffurfio ADiPs i ddangos eu bod yn cydymffurfio â'r Safonau Prydeinig. Mwy o wybodaeth
- Trefnu /hyfforddi stiwardiaid /gwirfoddolwyr ar gyfer rheoli traffig /pobl ar y safle.
Dylai unrhyw weithredwr sy’n defnyddio LPG gael dealltwriaeth sylfaenol o nodweddion, gweithdrefnau brys a defnydd diogel. Bydd rhaid trin a storio LPG yn unol â’r rheolau a’r codau ymarfer presennol.
- Os defnyddir LPG (Liquid Petrolium Gas), rhaid bod Tystysgrif Diogelwch Nwy dilys ar waith. Mwy o wybodaeth
- Canllaw defnydd LPG (yn agor mewn tab newydd)
Rhaid i drefnwyr digwyddiadau sicrhau bod cyfleusterau glanweithdra addas a digonol mewn lle sydd yn ateb anghenion y mynychwyr ac yn cydymffurfio gyda safonau iechyd y cyhoedd: https://www.thepurpleguide.co.uk/sanitation\
| Math o ddigwyddiad | Toiledau menywod | Toiledau dynion |
| Digwyddiadau gydag amser agor gât yn para llai na chwe awr | 1 i bob 120 | 1 i bob 600, ac 1 wrinal i bob 175 |
| Digwyddiadau gydag amser agor gât yn para chwe awr neu fwy | 1 i bob 100 | 1 i bob 500, ac 1 wrinal i bob 150 |
Dylid:
- Sicrhau fod y toiledau wedi'u harwyddo'n glir ac yn hawdd eu cyrraedd.
- Sicrhau fod trefniant glanhau, gwasanaethu ac ail-stocio cyflenwadau fel papur toiled a chyfleusterau golchi dwylo yn rheolaidd.
- Sicrhau fod system i reoli gwastraff yn ddiogel, gyda thoiledau'n cael eu gwasanaethu'n rheolaidd a gwastraff yn cael ei symud gan ddarparwyr trwyddedig lle bo angen.
Dylai Trefnwyr Digwyddiadau sicrhau bod cyflenwad digonol o ddŵr (yfed) iachus ar gael. Mae'n ofyniad cyfreithiol i safleoedd bwyd/trwyddedig gael cyflenwad o ddŵr yfed am ddim, ac mae angen i drefnydd y digwyddiad allu darparu’r cyflenwad i fasnachwyr os nad oes ganddynt ddŵr eu hunain.
Dylech ddilyn canllaw Dŵr Cymru (yn agor mewn tab newydd) wrth wneud paratoadau ynglŷn a chyflenwad dwr yn eich digwyddiad: Canllawiau ar gyfer darparu cyflenwadau dŵr yfed dros dro mewn digwyddiadau(yn agor mewn tab newydd)
Os byddwch yn defnyddio cyflenwad dŵr preifat, mae’r canlynol yn berthnasol i chi:
Bydd angen i chi:
- Hysbysu Cyngor Gwynedd o leiaf 4 wythnos cyn yr digwyddiad os bydd y digwyddiad yn defnyddio cyflenwad dŵr preifat fel y gellir trefnu asesiad risg ac unrhyw samplo gofynnol er mwyn sicrhau bod yr holl ddŵr yfed yn ddiogel ac yn addas i'w yfed a pharatoi bwyd.
- Darparu manylion y cyflenwad yn eich cais (tarddiad / lleoliad, dyddiadau, presenoldeb disgwyliedig, a ble bydd dŵr yn cael ei ddefnyddio fel ardaloedd arlwyo neu wersylla) fel y gellir asesu'r cyflenwad yn iawn.
- Paratoi at fethiannau neu sychder gan sicrhau bod mynediad at ddŵr yfed wrth gefn os daw'r prif gyflenwad yn anniogel neu i ben.
- Canllawiau gan y Drinking Water Inspectorate: Festivals and temporary events (yn agor mewn tab newydd)
Rhaid i drefnwyr digwyddiadau gymryd camau rhesymol a rhoi mesuriadau lliniaru sŵn mewn lle i leihau'r aflonyddwch sŵn i drigolion cyfagos, yn enwedig lle bwriedir cynnal adloniant a gweithgareddau yn hwyr yn y nos. Dylai trefniadau fod mewn lle i fonitro sŵn a chyfathrebu â'r gymuned leol er mwyn atal niwsans.
Gwybodaeth i helpu'r rhai sy'n trefnu digwyddiadau i reoli sŵn
Dyma rhai o gyfrifoldebau y trefnwyr er mwyn rheoli sŵn -
- Hysbysu trigolion cyfagos ymlaen llaw am y digwyddiad (dyddiad, amseroedd ayyb) a rhoi rhif cyswllt yr person/swyddog sy'n gyfrifol am ddelio â chwynion sŵn yn ystod y digwyddiad.
- Sicrhau fod sŵn y digwyddiad ar lefel na fydd yn achosi niwsans mewn eiddo cyfagos.
- Dynodi person cyfrifol i fonitro lefelau sŵn yn ystod y digwyddiad, yn enwedig ger ardaloedd preswyl.
- Annog mynychwyr i adael y digwyddiad yn dawel, yn enwedig yn hwyr yn y nos.
- Bod yn ymwybodol y gall cynghorau gymryd camau gorfodi os bydd niwsans sŵn.
- Cael gweithdrefn mewn lle i reoli lefelau sŵn (cysylltu ag unrhyw fand/DJ, cadw drysau a ffenestri ar gau, gorffen y digwyddiad yn brydlon ar yr amser priodol, ac ati.)
- Cydymffurfio gyda rheoliadau arferol niwsans sŵn statudol a darparu Cynllun Rheoli Sŵn.
Rhaid i drefnwyr digwyddiadau sicrhau bod yr holl fwyd a ddarperir yn y digwyddiad yn ddiogel i'w fwyta ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd berthnasol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod cyfleusterau, arferion hylendid a rheolaethau priodol ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Canllaw y CIEH ar gyfer arlwyo mewn digwyddiadau (yn agor mewn tab newydd)
Cofiwch:
- Mae angen casglu enw, cyfeiriad, manylion cyswllt, enw pob busnes bwyd fydd gennych.
- Rhaid i fusnesau bwyd fod wedi cofrestru â gyda sgôr hylendid bwyd boddhaol neu well. Mwy o wybodaeth
- Rhaid sicrhau fod gan pob stondin cyfleusterau addas i olchi dwylo a chyflenwad cyson o ddŵr poeth ac yfed.
- Argymhellir eich bod yn gofyn i weld tystysgrifau hyfforddiant diogelwch bwyd staff y busnesau arlwyo.
Mae angen i drefnwyr digwyddiadau sicrhau bod yswiriant priodol mewn lle i amddiffyn rhag risgiau i fynychwyr, staff ac eiddo. Dylai pob contractwr a chyflenwr ddal yswiriant perthnasol eu hunain hefyd.
- Dylai trefnwyr digwyddiadau gael ‘Public Liability Insurance’
- Disgwylir i bob cyflenwr, perfformiwr a chontractwr gael yswiriant eu hunain.
- Mae’n bosib y bydd angen yswiriant ychwanegol yn dibynnu ar y digwyddiad, a chynghorir trefnwyr i gael cyngor ac phrisiad gan gwmnïau sydd yn arbenigo mewn yswiriant digwyddiadau.
Canllawiau pellach
Gwybodaeth ddefnyddiol
Mae’r maes trefnu digwyddiadau yn cael ei ddylanwadu’n fawr gan wahanol ddeddfau a rheolaethau. Er mwyn eich cynorthwyo, rydym wedi paratoi cyfeirlyfr rhyngweithiol. Gall Y Llyfr Piws sy’n cael ei ddarparu gan y Fforwm Digwyddiadau Prydeinig hefyd fod yn fuddiol i chi:
- Y Llyfr Piws (yn agor mewn tab newydd) (gan y Fforwm Digwyddiadau Prydeinig) (Nodwch fod y wybodaeth yma dim ond ar gael yn Saesneg)
- Canllaw ar gyfer cynllunio a llwyfannu digwyddiadau yn Gwynedd (yn agor mewn tab newydd)
- Holiadur Cyn Cyfarfod SAG (yn agor mewn tab newydd)
- Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Gwynedd - Amodau Gorchwyl a Protocols (yn agor mewn tab newydd)
- Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru (yn agor mewn tab newydd)
- Event safety - Managing an event (hse.gov.uk) (Nodwch fod y wybodaeth yma dim ond ar gael yn Saesneg)
Gwybodaeth Ddefnyddiol, Ceisiadau, a Thelerau ac Amodau
Dolenni i wybodaeth ar wefan y cyngor
Dolenni i wybodaeth allanol
- Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru (yn agor mewn tab newydd)
- Heddlu Gogledd Cymru (yn agor mewn tab newydd)
- Heddlu Gogledd Cymru - Sut i roi gwybod i ni am ddigwyddiad neu orymdaith
- Ymddiriedolaeth GIG Ambiwlans Cymru (yn agor mewn tab newydd)
- WAST - Ffurflen Sicrwydd Meddygol Digwyddiad (yn agor mewn tab newydd) (Nodwch fod y ffurflen yma dim ond ar gael yn Saesneg)
- Ymweld ag Eryri (yn agor mewn tab newydd)
- Parc Cenedlaethol Eryri (yn agor mewn tab newydd)
- Digwyddiadau Trefnedig - Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (yn agor mewn tab newydd)
- Cyfoeth Naturiol Cymru / Gwneud cais i ddefnyddio tir yr ydym yn ei reoli (yn agor mewn tab newydd)
Mae Cyngor Gwynedd yn falch i gyhoeddi Cronfa Datblygu Digwyddiadau Gwynedd 2026/7.
Mae'r gronfa yma bellach ar gau i geisiadau newydd.
Dyddiad cau: 12pm, 15 Mai 2026
Pwrpas y gronfa hon yw cefnogi trefnwyr digwyddiadau i gynnal digwyddiadau cynaliadwy sy'n creu bwrlwm yn ein cymunedau ac yn cefnogi egwyddorion yr economi ymweld er lles pobl, yr amgylchedd, iaith, a diwylliant Gwynedd.
Mae’r gronfa hwn yn cynnig cyfle i drefnwyr digwyddiadau sicrhau dyfodol eu digwyddiadau ac yn buddsoddi mewn arferion cynaliadwy i gefnogi eu datblygiad hirdymor.
Gwybodaeth Allweddol:
- Agored i ddigwyddiadau a gynhelir yng Ngwynedd rhwng y cyntaf o Ebrill 2026 a 5ed o Fawrth 2027.
- Cynigir grantiau hyd at £5,000 i gefnogi costau cyfalaf a refeniw.
- Dyddiad cau: 12pm, 15 Mai 2026.
Am gyngor ar wneud cais, cysylltwch â ni: digwyddiadau@gwynedd.llyw.cymru
Cysylltwch â ni
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni: