Arwyddion, Baneri neu fflagiau

Mae’n rhaid cael trwydded i godi addurniadau, baneri neu fflagiau uwchben y briffordd gyhoeddus.

 

Sut ydw i’n gwneud cais?

Cwmniau neu unigolion sydd â yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gwerth £10 miliwn sydd yn gallu gwneud cais.   

Rhaid lawrlwytho ffurflen gais a'i dychwelyd cyfeiriad isod (gyda ffi), i’r Uned Gofal Stryd er mwyn gweld os yw’r safle yn addas.

Cyfeiriad: Uned Gwaith Stryd, Adran Amgylchedd, Cyngor Gwynedd, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01766 771 000

Bydd angen caniatau 5 diwrnod gwaith ar gyfer rhoi ystyriaeth i’ch cais.  Bydd cynrychiolydd o’r Uned Gofal Stryd yn cysylltu trwy e-bost neu lythyr o fewn 5 diwrnod gwaith. 

 

Beth yw’r gost?

£153 y mis yw cost cais i gael rhoi arwyddion, baneri neu fflagiau uwchben priffordd gyhoeddus. 

Mae angen i chi amgáu’r ffi berthnasol gyda’r cais hwn. Bydd rhaid talu’r ffi cyn i’r uned roi ystyriaeth i’ch cais. 

Noder: Ni fydd ad-daliad o’r ffi yn cael ei wneud petai’r cais yn aflwyddiannus.