Cais i gau ffordd dros dro

Os ydych am gau ffordd yng Ngwynedd am unrhyw gyfnod o amser, mae’n rhaid anfon cais i Uned Gofal Stryd y Cyngor.

Gall y gais ddod gan gwmni neu gan unigolyn sydd, er enghraifft, yn trefnu digwyddiad. e.e:

  • gwaith ffordd / gwaith ar ochr y ffordd
  • gorymdaith gyhoeddus
  • marchnadoedd stryd
  • unrhyw cyfnodau ble mae disgwyl i dorfeydd o bobl fod ar y stryd

 
Sut ydw i’n gwneud cais?

Llawrlwythwch y ffurflen gais isod a’i dychwelyd drwy’r post (gyda’r ffi) i’r cyfeiriad ar y ffurflen

Ffurflen gais – cau ffordd dros dro

Rydym yn ymdrechu i gadw ffyrdd y sir ar agor, ac yn adolygu pob cais yn unigol. Nid yw cyflwyno ffurflen gais yn gwarantu y bydd y Cyngor yn cau’r ffordd i chi.

Cau ffordd mewn argyfwng:

Ffurflen gais - cau ffordd mewn argyfwng

 

Beth yw’r gost?

  • £1010 - cais i gau ffordd dros dro trwy rybudd.
  • £2,324 - cais i gau ffordd dros dro trwy orchymyn. 

Anfonwch siec yn daliadwy i ‘Cyngor Gwynedd’ gyda’r ffurflen gais. Ni fydd eich cais yn cael ei ystyried nes byddwn wedi derbyn y taliad. 

Ni fydd ad-daliad o’r ffi os yw’r cais yn aflwyddiannus. 


Rhagor o wybodaeth

Am gyngor pellach, ffoniwch 01766 771000