Gwestai / adeiladau wedi'u cymeradwyo
Mae nifer o westai ac adeiladau eraill yng Ngwynedd wedi eu cymeradwyo ar gyfer cynnal seremonïau sifil. Mae'r gwestai / adeiladau hyn wedi eu nodi yn y tabl isod.
Byddwch angen trefnu dyddiad ar gyfer y seremoni gyda'r gwesty/adeilad yn ogystal â gyda Gwasanaeth Cofrestru Gwynedd.
Noder: Nid yw’n bosib cynnal seremonïau yn yr awyr agored, lan y môr, mewn pebyll nac mewn strwythurau symudol neu dros dro fel cychod neu falŵns aer poeth.