Gallwch gofrestru genedigaeth baban sydd wedi ei eni yng Ngwynedd yn unrhyw un o swyddfeydd cofrestru Gwynedd drwy wneud apwyntiad o flaen llaw. Bydd y cofrestru’n cymryd tua 30 munud.
Trefnu apwyntiad ar-lein
Neu ffoniwch 01766 771000.
Yn sgil canllawiau Llywodraeth Cymru, rydym bellach yn cynnig apwyntiadau i gofrestru genedigaethau hyd at ddiwedd Awst, cyn adolygu’r trefniadau.
Mae cofrestru genedigaethau yn broses gyfreithiol ac felly mae’n rhaid i ni ddilyn canllawiau caeth. Yn ystod y cyfnod hwn yn y pandemig, cytunwyd er mwyn lleihau’r risg i’r cyhoedd ac i’r staff y byddwn yn gallu cymryd manylion i gofrestru genedigaeth fel proses dau gam.
- Bydd cofrestrydd yn eich ffonio ar amser a drefnwyd ymlaen llaw i ofyn y cwestiynau penodedig i chi er mwyn caniatáu i ni lunio tudalen gofrestr ddrafft. Sylwer: os yw rhieni’n ddi-briod a bod dad/ail riant yn dymuno cael ei gofnodi ar y gofrestr, yna bydd angen i’r ddau riant fod ar gael ar gyfer yr alwad ffôn hon. Byddwn yn cymryd taliad drwy gerdyn ar gyfer unrhyw dystysgrifau y gofynnir amdanynt ar y pwynt hwn. Mae pob tystysgrif yn costio £11 yr un.
- Byddwn yn trefnu amser addas (yr un diwrnod â cham 1) i fynd i’r swyddfa lle bydd y cofrestrydd yn cyflwyno tudalen gofrestr wedi’i chwblhau ac yn gofyn i chi wirio a llofnodi’r gofrestr. Sylwer nad yw’r enedigaeth wedi’i chofrestru nes i’r dudalen gofrestru gael ei llofnodi gan hysbysydd cymwys.
Sicrhewch eich bod yn dod â’r canlynol gyda chi i’ch apwyntiad i wirio a llofnodi’r gofrestr:
- Beiro ysgrifennu du neu glas ar gyfer llofnodi
- Prawf adnabod ar gyfer y ddau riant fel y gallwch wirio’r wybodaeth a gofnodir yn erbyn eich manylion
Cofiwch fod tudalen y gofrestr yn ddogfen gyfreithiol a’i bod yn amhosibl newid unrhyw wallau y sylwir arnynt ar ôl llofnodi heb gais cywiro ffurfiol. Bydd angen talu ffi ystyried o £75 neu £90 am bob cais am gywiriad a rhaid ei anfon i’n prif swyddfa ynghyd â thystiolaeth o’r wybodaeth gywir er mwyn i benderfyniad gael ei wneud. Gall gymryd misoedd i’w gymeradwyo, felly mae’n hanfodol eich bod yn gwirio bod yr holl wybodaeth ar y gofrestr yn gywir cyn llofnodi.
Canslo apwyntiad: os na fyddwch yn gallu mynychu apwyntiad, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni. Ffoniwch 01766 771000.