Tystysgrif geni
Mae'n bosib prynu copi o dystysgrif geni ar gyfer unrhyw un sydd wedi eu geni yng Ngwynedd ers 1837. Os ydych yn chwilio am wybodaeth cyn 1837, cysylltwch ag un o archifdai Gwynedd.
Mae 2 fath o dystysgrif geni:
1. Tystysgrif geni safonol (llawn)
- Pa wybodaeth sydd arni?
Mae’r dystysgrif geni safonol yn nodi enw, rhyw, dyddiad geni, ardal yr enedigaeth, cyfeiriad geni'r plentyn a manylion y rhieni.
- Ar gyfer beth fydd angen tystysgrif geni safonol?
Byddwch angen tystysgrif geni safonol er mwyn gwneud cais am nifer o brosesau swyddogol, gan gynnwys gwneud cais am basbort, pensiwn neu visa.
- Cost:
£10.00 am bob copi (+ £4 postio a phecynnu)
£7.00 am bob copi o fewn mis o gofrestru genedigaeth y baban (+ £4 postio a phecynnu)
- Sut mae gwneud cais am gopi?
- Dros y ffôn: 01766 771000 a thalu gyda cherdyn debyd
- Drwy'r post: Lawrlwythwch y ffurflen hon: Prynu copi o dystysgrif geni safonol a'i hanfon wedi ei chwblhau gyda siec/archeb bost yn daladwy i 'Cyngor Gwynedd' i: Cofrestryddion, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
- Sut a phryd fydda i yn derbyn y dystysgrif?
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais a'ch taliad byddwn yn ymdrechu i anfon y dystysgrif i chi drwy’r post o fewn 5 diwrnod gwaith. Gall ceisiadau am dystysgrifau ar gyfer ymchwil teulu gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith.
2. Tystysgrif geni fer
- Pa wybodaeth sydd arni?
Enw'r plentyn, rhyw, dyddiad geni ac ardal yr enedigaeth yn unig.
- Ar gyfer beth fydd angen tystysgrif geni fer?
Bydd yn ddigonol er mwyn hawlio budd-dal plant ond bydd nifer o brosesau swyddogol eraill yn gofyn am gopi o dystysgrif llawn.
- Cost:
£10.00 am bob copi ychwanegol (+ £4 postio a phecynnu)
£7.00 am bob copi ychwanegol o fewn mis o gofrestru genedigaeth y baban (+ £4 postio a phecynnu)
- Sut mae gwneud cais am gopi?
- Dros y ffôn: 01766 771000 a thalu gyda cherdyn debyd.
- Drwy'r post: Lawrlwythwch y ffurflen hon: Prynu copi o dystysgrif geni fer a'i hanfon wedi ei chwblhau gyda siec/archeb bost yn daladwy i 'Cyngor Gwynedd' i: Cofrestryddion, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
- Sut a phryd fydda i yn derbyn y dystysgrif?
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais a'ch taliad byddwn yn ymdrechu i anfon y dystysgrif i chi drwy’r post o fewn 5 diwrnod gwaith. Gall ceisiadau am dystysgrifau ar gyfer ymchwil teulu gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith.
Angen tystysgrif ar frys?
Os ydych angen y dystysgrif ar frys bydd yn bosib trefnu eich bod yn casglu’r dystysgrif ar y diwrnod y byddwch yn gwneud y cais
- Sut mae gwneud cais brys am dystysgrif?
- Dros y ffôn: 01766 771000 a thalu gyda cherdyn debyd cyn 10:30am
- Yn swyddfa gofrestru Caernarfon: a thalu gyda siec, archeb bost neu arian parod cyn 10:30am
- Pryd alla i gasglu'r dystysgrif os yn cyflwyno cais brys?
Os byddwn yn derbyn eich cais cyn 10.30am bydd y dystysgrif yn barod i'w chasglu ar ôl 3pm ar y diwrnod hwnnw. Fel arall, i'w chasglu ar ôl 3pm y diwrnod canlynol.
- O ble alla i gasglu'r dystysgrif os yn cyflwyno cais brys?
- Cost am gais brys
Cost am gais brys yw £15 yn ychwanegol i gost y tystysgrif
Tystysgrif mabwysiadu
Mae’r Cyngor yn dal copïau o dystysgrifau geni gwreiddiol (gyda manylion y rhieni gwaed) yn unig. Gellir defnyddio’r dystysgrif hon at ddiben ymchwil teulu.
I wneud cais am unrhyw broses swyddogol (e.e. cais am basbort, pensiwn, visa) byddwch angen y dystysgrif mabwysiadu sydd yn cynnwys manylion y rhieni mabwysiedig. Cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol os am brynu copi.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni ar 01766 771000.