Gwneud cais cynllunio

Mae'n debygol y bydd yr wybodaeth ganlynol o gymorth wrth i chi baratoi eich cais:

 

Cyflwyno cais cynllunio

Rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno eich cais cynllunio ar y we drwy ddefnyddio gwefan Ceisiadau Cynllunio Cymru:

Ceisiadau Cynllunio Cymru - gwneud cais ar-lein

Mae Ceisiadau Cynllunio Cymru yn wefan genedlaethol ar gyfer cyflwyno ceisiadau cynllunio a rhannu gwybodaeth gynllunio yng Nghymru.  Mae'r wybodaeth a'r gwasanaethau mae'n eu cynnig yn benodol ar gyfer perchnogion tai, busnesau, gweithwyr proffesiynol cynllunio a swyddogion llywodraeth leol. 

Ar wefan Ceisiadau Cynllunio Cymru, gallwch:

  • wneud cais am ganiatâd cynllunio
  • cyflwyno sylwadau ar gais cynllunio
  • argraffu ffurflenni cais cynllunio
  • lawrlwytho'r arweiniad ar ddatblygiadau a ganiateir i berchnogion tai
  • gweld gwybodaeth am y broses gwneud penderfyniadau
  • cael help i ddefnyddio Ceisiadau Cynllunio Cymru. 

Mae Cyngor Gwynedd wedi integreiddio'n llawn â Cheisiadau Cynllunio Cymru a bydd yn derbyn copi o bob cais, cynllun a thaliad a gyflwynir yn electroneg.


Os ydych yn dymuno argraffu ffurflenni cais, gallwch gyflwyno'ch cais yn uniongyrchol i ni drwy e-bost, trwy'r post neu unrhyw Siop Gwynedd.

  • E-bost: cynllunio@gwynedd.llyw.cymru 
  • Post: Y Gwasanaeth Cynllunio, Cyngor Gwynedd, Swyddfeydd y Cyngor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd. LL53 5AA. 

Ffurflenni Cais Cynllunio

Noder, os ydych yn cyflwyno'ch cais ar bapur, mae'r ffurflen gais yn gofyn i chi gyflwyno 3 copi o bob dogfen yr ydych yn ei chyflwyno. I leihau gwastraff, nid yw Cyngor Gwynedd ond angen 2 set ar gyfer pob cais. 

 

COFIWCH!  Os yw eich datblygiad y tu mewn i Barc Cenedlaethol Eryri, bydd angen i chi gysylltu efo nhw, nid Cyngor Gwynedd. 

 


Beth fydd yn digwydd ar ôl cyflwyno'r cais?

Ar ôl i'r Gwasanaeth Cynllunio dderbyn y cais bydd yn gwirio ei fod yn ddilys a bod yr holl wybodaeth angenrheidiol wedi ei chynnwys gyda'r cais. Er enghraifft: ydi’r holl fapiau / cynlluniau perthnasol wedi eu cyflwyno? ydi’r ffi cywir wedi ei dalu? Ydi’r math cywir o gais cynllunio wedi ei dderbyn? Mae'r meini prawf llawn i'w gweld yn yr Amodau dilysu.


Cofrestru’r cais
Os yw’r cais yn ddilys, bydd yn cael ei gofrestru o fewn 5 diwrnod gwaith i'w dderbyn, a byddwch chi neu eich asiant / pensaer yn derbyn llythyr cadarnhad. Bydd y llythyr yn nodi cyfeirnod unigryw. Dylid nodi'r cyfeirnod hwn ar unrhyw ohebiaeth ynglŷn â'r cais.

Ar ôl i'r cais cynllunio gael ei gofrestru bydd yn bosib gweld manylion y cais ar system ar-lein Dilyn a darganfod. Bydd manylion eich cais cynllunio yn cael eu diweddaru'n rheolaidd gydag unrhyw newidiadau / diwygiadau i'ch cais:

 
Ceisiadau anghyflawn
Os nad yw’r cais yn gyflawn, bydd eich cais yn cael ei anfon yn ôl atoch chi neu at eich asiant / pensaer o fewn 5 diwrnod gwaith o'i dderbyn yn nodi pa wybodaeth sydd ar goll neu yn anghyflawn.



Cyfnod Ymgynghori ac ystyried y cais

Yn fuan ar ôl i’r cais gael ei gofrestru a'i ddilysu, bydd y Cyngor yn cychwyn ar gyfnod cyhoeddusrwydd 21 diwrnod. Yn ddibynnol ar y math o gais cynllunio, bydd y Cyngor yn ymgynghori gyda'r cyhoedd a gyda chyrff perthnasol eraill, e.e. y Cyngor Tref, Cyfoeth Naturiol Cymru neu Dŵr Cymru.

Yn ystod y cyfnod hwn bydd cyfle i unrhyw un gyflwyno sylwadau ar gais cynllunio (manylion am sut i roi sylw ar gael isod).


Sut fydd y Cyngor yn ymgynghori?

Mae dulliau ymgynghori'r Cyngor yn cynnwys un neu fwy o'r canlynol: 

  • Llythyr: Bydd y swyddog cynllunio yn penderfynu pa eiddo lleol fydd angen cysylltu â hwy, a pha gyrff perthnasol eraill fydd yn derbyn rhybudd drwy lythyr am eich datblygiad arfaethedig.
  • Y wasg: Bydd rhai ceisiadau hefyd yn cael eu hysbysebu yn y wasg leol. Mae’r rhain yn cynnwys ceisiadau mewn Ardaloedd Cadwraeth, adeiladau rhestredig a cheisiadau sydd yn gwyro oddi wrth y polisi cynllunio.
  • Rhybudd safle: Bydd rhybudd yn cael ei osod ger y safle yn hysbysu bod cais cynllunio wedi ei gyflwyno ar gyfer y safle. 
  • Ar-lein: Mae manylion am bob cais cynllunio sy’n cael ei gofrestru i’w gweld ar y system ar-lein Dilyn a Darganfod.

Bydd swyddog cynllunio hefyd yn ymweld â’r safle er mwyn asesu’r cais. Bydd yn cysylltu â chi / eich asiant os bydd angen trefnu mynediad i’r safle.  

 

Ystyried y cais

Bydd y swyddogion cynllunio yn ystyried y cais gan gymryd yr holl bolisïau cynllunio perthnasol i ystyriaeth, yn ogystal ag unrhyw ystyriaethau cynllunio eraill - gan gynnwys unrhyw sylwadau cynllunio dilys sydd wedi eu derbyn yn ystod y broses ymgynghori.

Os bydd angen addasu’r cynlluniau, bydd y swyddog yn cysylltu gyda chi / eich asiant. Gallai’r addasiadau hyn gynnwys enghreifftiau fel newid i ddyluniad neu faint y datblygiad.

Mewn rhai amgylchiadau, bydd angen ailadrodd y broses ymgynghori ar ôl i’r cynlluniau diwygiedig gael eu cyflwyno. Gyda'r achosion hyn, bydd y broses ymgynghori yn para am un ai 7, 14 neu 21 diwrnod yn ddibynnol ar y math o gais sydd dan sylw. Yn ystod y cyfnod hwn bydd gan y cyhoedd hawl i gyflwyno sylwadau am y cais. 

 

Datganiad preifatrwydd