Cyngor cyn cyflwyno cais cynllunio

Cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol rydym yn awgrymu’n gryf iawn eich bod yn defnyddio'r gwasanaeth 'Cyngor cyn gwneud cais' 
 

Cyflwyno cais am gyngor cynllunio

Cyngor cyn cyflwyno cais cynllunio - cais ar-lein


Sut alla i elwa o’r gwasanaeth hwn?

Gallwn gynnig cyngor a gwybodaeth arbenigol i chi ar y materion amrywiol rydych angen eu hystyried cyn gwneud cais, gan gynnwys: 

  • rhoi eglurder, ac adnabod yn gynnar yn y broses y polisïau / safonau / ffactorau sy’n berthnasol i’ch datblygiad
  • eich helpu i gyflwyno cais cyflawn a fydd yn osgoi oedi yn ystod y cofrestru / dilysu
  • eich cynghori i baratoi cais ddylai, os ydych yn rhoi ystyriaeth lawn i’r cyngor a roddwyd, gyflymu’r broses o benderfynu eich cais
  • arwain at ostyngiad yn yr amser a dreulir gan ymgynghorwyr proffesiynol yn ogystal ag arbed costau, wrth iddynt baratoi cynigion
  • eich cynghori pan fo egwyddor y datblygiad yn annerbyniol, gan arbed y gost o wneud cais i chi

Beth yw trefniadau a chost y gwasanaeth?

Pecyn gwybodaeth: cyngor cyn cyflwyno cais cynllunio

 

Ceisiadau mawr a chymhleth

Mae'r drefn ychydig yn wahanol gyda cheisiadau cynllunio mawr iawn neu gymhleth iawn: Rhagor o fanylion