Canllawiau Cynllunio Atodol
Yn dilyn mabwysiadu CDLl ar y Cyd mae’r Cynghorau yn y broses o baratoi cyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ar bynciau gwahanol. Mae CCA yn ehangu ar yr egwyddorion polisi a gynhwysir o fewn y CDLl ar y Cyd ac yn cynnig arweiniad i ymgeiswyr ynghyd a Swyddogion wrth asesu ceisiadau cynllunio.
Mae’r ddogfen ganlynol yn rhoi ychwaneg o eglurder ynglŷn a broses o baratoi Canllawiau Cynllunio Atodol:-
Ymgynghoriad ar Ganllawiau Cynllunio Atodol
Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Ganllaw Cynllunio Atodol ‘Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid’ a ‘Newid defnydd cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol, safleoedd cyflogaeth ac unedau manwerthu’.
Mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl ar y Cyd) Gwynedd a Môn gan y Cynghorau ar 31ain o Orffennaf, 2017. Mae’r CDLl ar y Cyd yn disodli’r cynlluniau datblygu mabwysiedig blaenorol ar gyfer ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd a Môn. Y CDLl ar y Cyd sydd yn gosod y fframwaith polisi cynllunio defnydd tir ar gyfer yr Awdurdodau. Yn dilyn mabwysiadu CDLl ar y Cyd mae’r Cynghorau yn y broses o baratoi cyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ar bynciau gwahanol. Mae CCA yn ehangu ar yr egwyddorion polisi a gynhwysir o fewn y CDLl ar y Cyd ac yn cynnig arweiniad i ymgeiswyr ynghyd a Swyddogion wrth asesu ceisiadau cynllunio.
Mae'r Canllawiau Cynllunio Atodol canlynol wedi'u cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus:
Canllaw Cynllunio Atodol – Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid*
Canllaw Cynllunio Atodol - Newid defnydd cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol, safleoedd cyflogaeth ac unedau manwerthu
Mae’r ymgynghoriad sydd yn cael ei gynnal ar y CCA ‘Cyfleusterau a Llety i Dwristiaid’ yn benodol ar gyfer y rhannau sydd wedi eu dangos mewn ysgrifen fras ac wedi eu tanlinellu (rhan a pharagraff ). Ni fydd unrhyw sylw a dderbynnir ar rannau eraill o’r ddogfen yn cael eu hystyried fel rhai dilys.
Oherwydd y cyfyngiadau presennol sydd mewn grym, dim ond ar wefan yr Awdurdodau mae’r Canllawiau ar gael i’w harchwilio. Os oes yna unrhyw rwystrau neu gyfyngiadau hefo cael mynediad i’r wefan er mwyn archwilio’r ddogfen, gofynnir yn garedig i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd er mwyn gwneud trefniadau amgen er mwyn archwilio’r dogfennau.
Rydym yn gwahodd unigolion a sefydliadau i roi eu barn ar gynnwys y CCA. Gallwch wneud hyn drwy lenwi’r ffurflen yma a’i anfon yn nol atom at polisicynllunio@gwynedd.llyw.cymru.
Gallwch hefyd argraffu copi papur o’r holiadur a’i anfon nôl atom i sylw:
Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd,
Swyddfa Cyngor,
Stryd y Jêl,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL55 1SH
Gallwch hefyd anfon ymatebion dros e-bost at: polisicynllunio@gwynedd.llyw.cymru
Bydd y cyfnod ymgynghoriad yn agored am gyfnod o 6 wythnos. Fe ddylid cyflwyno unrhyw sylw sydd gennych erbyn 5yh ar 27ain o Dachwedd, 2020.
Canllawiau Cynllunio Atodol (Mabwysiedig)
Mae'r Canllawiau canlynol wedi bod trwy gyfnod o ymgynghori cyhoeddus ac wedi cael eu mabwysiadu gan y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd.
Ynghyd â phenderfyniad y Cynghorau i fabwysiadu’r CDLl ar y Cyd penderfynwyd y byddai’r Canllawiau Cynllunio Atodol a gafodd eu mabwysiadu i gefnogi’r hen Gynllun Datblygu Unedol yn parhau i fod yn ystyriaeth gynllunio faterol, wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, lle mae’n briodol, nes eu bod yn cael eu disodli gan rai newydd neu’n cael eu tynnu’n ôl.
Mae’r Canllawiau Cynllunio Atodol Mabwysiedig canlynol yn berthnasol wrth ystyried a phenderfynu ar geisiadau cynllunio yn Ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd:-
Canllawiau Cynllunio Atodol sydd eisioes wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus
Mae’r Canllawiau Cynllunio Atodol canlynol eisoes wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus sydd bellach wedi dod i ben: