Cais mynediad i'r dosbarth Derbyn

Mae gan blant sy’n 4 oed cyn 1 Medi hawl i addysg llawn amser mewn ysgol gynradd (dosbarth Derbyn). Mwy o wybodaeth 

Mae angen gwneud cais am le mewn dosbarth Derbyn hyd yn oed os yw eich plentyn wedi bod yn mynychu dosbarth Meithrin yn yr ysgol. 

Rhaid gwneud cais cyn 1 Chwefror 2023 (ar gyfer Medi 2023). 

Cyn llenwi’r ffurflen gais:

Gwneud cais mynediad Dosbarth Derbyn

(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)


Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd rhieni yn cael eu hysbysu am ganlyniad eu cais mewn llythyr erbyn 16 Ebrill.

Os ydych wedi gwneud cais am le yn Ysgol Santes Helen neu Ysgol Ein Harglwyddes byddwn yn gyrru eich cais ymlaen atyn nhw.  Y nhw sydd yn gyfrifol am eu trefniadau mynediad eu hunain ac yn arbenigo mewn darparu addysg Gatholig. Mae’n bosib y byddant yn cysylltu â chi am ragor o wybodaeth er mwyn gallu prosesu eich cais e.e. ydi eich plentyn wedi ei fedyddio yn Gatholig a’i peidio.


Ceisiadau hwyr

Mae angen gwneud y cais am le mewn dosbarth Derbyn cyn 1 Chwefror 2023 (ar gyfer Medi 2023). Os bydd y cais yn cael ei dderbyn ar ôl y dyddiad yma bydd yn cael ei ystyried fel cais hwyr.


Mwy o wybodaeth

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn y Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni / Polisi mynediad ysgolion Gwynedd 

Neu cysylltwch â ni: 

  • mynediadysgol@gwynedd.llyw.cymru 
  • 01286 679904.

Ni all yr Awdurdod drafod argaeledd llefydd mewn unrhyw ysgol dros y ffôn.