Myfyrwyr
Cyllid Myfyrwyr
Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru, sydd wedi ei leoli yng Nghyffordd Llandudno, nawr yn gyfrifol am brosesu, asesu a thalu cyllid i fyfyrwyr ar gyfer pob cais.
Am fanylion ar sut i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Os oes gennych ymholiad am eich cyfrif cyllid i fyfyrwyr, dylech gysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru ar 0300 200 4050.
Gall tudalennau facebook a Twitter hefyd ddarparu gwybodaeth a diweddariadau rheolaidd.
Cronfeydd ymddiriedolaeth
Mae grantiau bychan ar gael i helpu pobl ifanc â'u haddysg. Mae rhai o'r grantiau hyn ar gael i bobl o ardal benodol yn unig.
Hola yn yr ysgol / coleg am fwy o wybodaeth, neu cysyllta â'r adran Addysg: 01766 771000 / e-bost: galwgwynedd@gwynedd.llyw.cymru
Cronfa Huw Owen
Cronfa Ymddiriedolaeth Addysgol Sir Gaernarfon
Cronfa Florence Guest Morgan, Llanengan
Cronfa J E Buckley Jones, Sir Gaernarfon
Addysg bellach
Ar ôl TGAU, gelli fynd i'r chweched dosbarth yn un o'r ysgolion hyn:
Neu gelli fynd i goleg addysg bellach:
Mae gwybodaeth am sut bydd ysgolion a cholegau Arfon yn cydweithio yn y Prosbectws 16+.
Teithio i'r ysgol / coleg
Er mwyn cael teithio i'r ysgol / coleg ar drafnidiaeth gyhoeddus, rhaid prynu tocyn bob tymor.
Chwilio am yrfa?
Gall nifer o bobl dy helpu: