Hysbysiad Statudol: Cynnig i gau Ysgol Y Garreg
Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi Hysbysiad Statudol mewn perthynas â’r cynnig i gau Ysgol Y Garreg 31 Awst 2026.
Gweld yr Hysbysiad Statudol
Lluniwyd y cynnig o ganlyniad i’r angen i gyfarch y niferoedd isel iawn o ddisgyblion sy’n mynychu Ysgol Y Garreg ac o ganlyniad, maint bychain y dosbarthiadau, yn ogystal â rhagamcanion isel o niferoedd i’r dyfodol. Nid oedd yr un o’r opsiynau eraill a adnabuwyd ar gyfer yr ysgol, gan gynnwys ffederaleiddio, yn mynd i’r afael a’r heriau yma. Fel canlyniad ystyrir mai cau’r ysgol yw’r opsiwn mwyaf priodol.
Cyfnod Gwrthwynebu
Fel y nodir yn yr Hysbysiad Statudol, gall unrhyw un wrthwynebu'r cynnig cyn pen cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi'r cynnig hwn, hynny yw erbyn 24 Mawrth 2026.
Sut i wrthwynebu’r cynnig?
Dylid anfon gwrthwynebiadau ysgrifenedig at sylw’r Pennaeth Addysg, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH neu drwy anfon neges e-bost at sylw’r Pennaeth Addysg i moderneiddioaddysg@gwynedd.llyw.cymru
Gwybodaeth bellach
Yn ei gyfarfod ar 10 Chwefror 2026, bu i Gabinet Cyngor Gwynedd benderfynu cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol , yn caniatáu cyfnod gwrthwynebu statudol o 28 diwrnod ar y cynnig i gau Ysgol Y Garreg ar 31 Awst 2026.
Ar ôl i’r cyfnod gwrthwynebu ddod i ben, bydd unrhyw wrthwynebiadau a dderbynnir yn cael eu hystyried cyn gwneud penderfyniad terfynol.