Trafferth talu
Os ydych yn cael trafferth talu eich Treth Cyngor, mae'n holl bwysig eich bod yn cysylltu â ni i weld beth ellir ei wneud.
- Ffôn: (01286) 682706 rhwng 9:00am a 5:00pm dydd Llun - dydd Gwener
- Ebost: TrethCyngor@gwynedd.llyw.cymru
- Galw draw:
RHAID gwneud apwyntiad o flaen llaw. Trefnwch apwyntiad drwy lenwi ein ffurflen Apwyntiad Siop Gwynedd arlein neu ffoniwch 01766 771000.
Mwy o wybodaeth.
- Post (ar gyfer pob ardal): Gwasanaeth Trethi, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Cymorth ar gael
Byddwn yn ymdrin â phob achos yn unigol felly nid oes modd rhoi manylion yma o bopeth a ellir ei ystyried. Efallai y gall y cymorth fod yn drefniant talu arbennig neu gyngor am ostyngiadau/eithriadau.
Dyledion eraill
Os oes gennych ddyledion eraill yn ychwanegol i Dreth Cyngor sy'n eich poeni, fe'ch cynghorir yn gryf i gysylltu â CAB Gwynedd sy'n darparu cyngor ar ddyledion yn rhad ac am ddim.