Mae sawl ffordd wahanol y gallwch dalu eich Treth Cyngor.
Mae Treth Cyngor i’w thalu bob mis am ddeg mis, neu os ydych wedi gofyn, dros ddeuddeg mis y flwyddyn (oni bai eich bod chi wedi gwneud trefniadau eraill gwahanol).
Mae sawl dull ar gael i dalu:
Talu drwy Ddebyd uniongyrchol
Dyma'r ffordd hawsaf o dalu. Gallwch ddewis talu ar y 5ed, 15ed, 21ain , 28ain o'r mis neu yn wythnosol bob Dydd Llun. Gallwch drefnu taliad debyd uniongyrchol drwy:
- Lawrlwytho ffurflen debyd uniongyrchol (yn agor mewn tab newydd)
(a'i dychwelyd drwy'r post i'r cyfeiriad sydd ar y ffurflen.) - gallwch ffonio (01286) 682700 i drefnu taliad Debyg Uniongyrchol, neu i addasu eich debyd uniongyrchol
(byddwch angen eich manylion banc wrth law).
Talu ar-lein
Talwch yn ddiogel gan ddefnyddio eich cerdyn debyd neu gredyd. Bydd angen i chi gael eich rhif cyfrif Treth Cyngor a manylion talu i wrth law.
Mae angen i'r taliad gyrraedd y Cyngor erbyn y 1af o'r mis.
Talu dros y ffôn
Gallwch dalu dros y ffôn gyda cherdyn debyd neu gerdyn credyd rhwng 8:30am a 5pm dydd Llun i ddydd Gwener. Bydd angen i chi gael eich rhif cyfrif Treth Cyngor a manylion talu i wrth law.
- Rhif ffôn: 01766 771000
Mae angen i'r taliad gyrraedd y Cyngor erbyn y 1af o'r mis.
Bilio electronig
Helpwch yr amgylchedd drwy roi'r gorau i ddefnyddio papur! Erbyn hyn mae’n bosib dewis derbyn eich bil Treth Cyngor drwy e-bost yn hytrach na drwy’r post. Mwy o wybodaeth