Biliau a negeseuon electronig Treth Cyngor
Gallwch nawr dderbyn eich bil Treth Cyngor ac unrhyw hysbysiadau eraill cysylltiedig drwy e-bost yn hytrach na drwy'r post.
Mae’n gyflym, yn effeithlon, ac yn lleihau defnydd papur.
Cofrestru i dderbyn gwybodaeth drwy e-bost
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Byddwn yn anfon e-bost atoch yn cadarnhau ein bod wedi derbyn eich cais. Os nad ydych wedi derbyn cadarnhad drwy e-bost, plîs gwiriwch eich ffolder post sothach. Wedi i chi gofrestru byddwn yn anfon e-bost atoch pan fydd bil newydd ar gael, neu os bydd unrhyw neges cysylltiedig.
Wedi newid eich cyfeiriad e-bost?
Rhowch wybod os ydych yn newid eich cyfeiriad e-bost drwy ail-lenwi'r ffurflen ar-lein gyda'ch manylion newydd.
Beth arall ddylwn i ei wybod ynghylch derbyn fy mil neu hysbysiadau eraill drwy e-bost?
Os bydd bil neu neges arall sy'n cael ei anfon i chi drwy e-bost yn cael ei ddychwelyd i ni fel e-bost 'heb ei anfon' ddwy waith ni fyddwn yn anfon bil neu negeseuon eraill i chi drwy e-bost. Byddwn yn rhoi eich manylion yn ôl ar y rhestr i dderbyn bil a negeseuon eraill drwy'r post. Pe baech chi eisiau derbyn eich biliau a negeseuon eraill drwy e-bost eto byddai'n rhaid i chi ail-lenwi'r ffurflen ar-lein.