Tai gwag
Gall tai sy’n wag achosi niwsans a difrod i dai cyfagos. Maent hefyd yn wastraff oherwydd gallent gael eu defnyddio fel cartrefi.
Gallwn roi cyngor i berchnogion tai gwag i’w helpu i wneud y tŷ’n addas i’w ddefnyddio eto.
Os yw’r perchennog yn gwrthod dod â’r tŷ’n ôl i ddefnydd neu’n peidio â thrwsio’r tŷ, gall y Cyngor:
- roi rhybudd i’r perchennog wneud y gwaith, a gwneud y gwaith ei hun os nad yw’r perchennog yn gwneud hynny
- gorfodi gwerthu’r tŷ i ad-dalu rhai dyledion i’r Cyngor.
Cynlluniau tai gwag
- TAW: Gall y Cyngor helpu i ostwng neu gael gwared ar y TAW ar yr holl ddeunyddiau a ddefnyddir wrth adnewyddu tŷ gwag. Os yw eiddo wedi bod yn wag rhwng 2 a 10 mlynedd, daw’r TAW ar y deunyddiau i lawr i 5%. Os yw eiddo wedi bod yn wag am dros 10 mlynedd, gellir gostwng y TAW i 0%.
- Cynllun Benthyciadau Gwella Cartref Llywodraeth Cymru:
Benthyciadau di-log o £1,000 i £25,000 i gynorthwyo perchnogion sydd angen gwneud gwaith adnewyddu ar ei eiddo. Ar gael i Berchnogion Preswyl, Landlordiaid, Datblygwyr ac Elusennau i gynorthwyo gyda gwneud cartref yn gynnes a diogel. Mae’r benthyciadau yn cynnwys ffi weinyddol o £500 ac y gellir ei ychwanegu at y benthyciad. Mae’n rhaid i berchnogion preswyl ad-dalu’r benthyciad o fewn 7 mlynedd. Mae’n rhaid i landlordiaid, datblygwyr ac elusennau ad-dalu’r benthyciad o fewn 5 mlynedd.
Ffurflen Gais Cynllun Benthyciadau Gwella Cartref Llywodraeth Cymru
- Grant Tai Gwag: Grantiau ar gyfer landlordiau i adnewyddu tai gweigion i safon byw derbyniol. Rhaid i’r eiddo fod wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy, a bydd rhaid i’r eiddo fod ar gael i’w rhentu drwy PSL neu drwy adran di-gartrefedd ar ddiwedd y gwaith. Os oes ganddo chi ddiddordeb yn y cynllun hwn, cysylltwch a ni am ragor o wybodaeth.
Cysylltwch â’r Tîm Tai Gwag