Faint ydi'r bil?
Rhowch eich cod post yn y blwch i ddod o hyd i fand treth cyngor y tŷ ac i weld faint o dreth sydd angen ei dalu.
Apelio yn erbyn eich band Treth Cyngor
Yr Asiantaeth Brisio sy'n gyfrifol am fandio tai - cysylltwch â nhw os ydych am apelio.
- cyfeiriad: Swyddfa Asiantaeth Brisio, Tŷ Glyder, 339 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1EP
- Ffôn: 03000 501 501
- Ebost: ctwales@voa.gsi.gov.uk
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y VOA: apelio yn erbyn eich band Treth Cyngor
I le mae'r arian yn mynd?
Mae tair elfen i Dreth Cyngor:
1. mae rhywfaint yn mynd i Gyngor Gwynedd,
2. peth i Awdurdod yr Heddlu
3. a pheth i Gynghorau Cymuned.
Cyngor Gwynedd sy'n casglu Treth Cyngor ar ran bawb, ond yr Heddlu a'r Cynghorau Cymuned sy'n penderfynu faint o dreth mae'n nhw eisiau codi.
Mwy o wybodaeth: