Gwneud cais am y Cynllun Prynu Cartref

Os ydych chi’n gwneud cais am y Cynllun Prynu Cartref o 1 Ebrill 2026 ymlaen, dilynwch y broses isod.

Am unrhyw ymholiadau neu os oes angen cymorth arnoch i gwblhau eich cais, cysylltwch â ni:

 

Defnyddiwch y gyfrifiannell prynu cartref i weld os ydych yn debygol o fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Prynu Cartref.

Cyfrifiannell Prynu Cartref

Os yw’r gyfrifiannell yn dangos eich bod chi’n debygol o fod yn gymwys, ewch ymlaen i gam 2.

Bydd gofyn i chi, ac unrhyw ymgeisydd ar y cyd, ddarparu gwybodaeth bersonol ynghyd â chopïau o’r dogfennau canlynol:

  • Prawf o Hunaniaeth (I.D.) (pasbort / tystysgrif geni / trwydded yrru)
  • Prawf preswylio (llythyr treth cyngor, biliau cartref, datganiadau banc neu gofrestr etholiadol)
  • Cynnig morgais mewn egwyddor sy’n dangos yr uchafswm y gallwch fenthyg

Ffurflen gais – rhan 1

Bydd rhaid darparu’r wybodaeth o fewn 5 diwrnod gwaith o ddyddiad y gwahoddiad i rannu dogfennau. Os oes unrhyw reswm pam na allwch gyflwyno’r dogfennau o fewn y terfyn amser, cysylltwch â ni. Os na chawn ymateb gennych yn ystod y cyfnod, byddwn yn cau'r cais.

Bydd Cyngor Gwynedd yn asesu’r cais yn erbyn meini prawf y cynllun. Os ydych yn gymwys, a bod cyllid ar gael, byddwn yn eich gwahodd i gwblhau Rhan 2 o’r ffurflen gais.

Mwy o wybodaeth am feini prawf y cynllun

Os yw eich cais yn cyrraedd y meini prawf, bydd y Cyngor yn gofyn am wybodaeth bellach, gan gynnwys:

  • 3 mis o ddatganiadau banc diweddar (pob cyfrif)
  • 3 mis o slipiau cyflog diweddaraf
  • Prawf o unrhyw incwm arall
  • Prawf o flaendal (cynilion, ISA, cyfrannau, bondiau)
  • P60
  • Manylion benthyciadau banc (os yn berthnasol)
  • Manylion cardiau credyd (os yn berthnasol)
  • Manylion cyfrifon neu gardiau siop (os yn berthnasol)
  • Ffioedd gofal plant (os yn berthnasol)
  • Os yn hunangyflogedig: Tystysgrif SA302 am y 3 blynedd diwethaf

Bydd rhaid darparu’r wybodaeth o fewn 5 diwrnod gwaith o ddyddiad y gwahoddiad i gwblhau Rhan 2 o’r ffurflen gais. Os oes unrhyw reswm pam na allwch gyflwyno’r dogfennau o fewn y terfyn amser, cysylltwch â ni. Os na chawn ymateb gennych yn ystod y cyfnod, byddwn yn cau'r cais.

Bydd Cyngor Gwynedd yn gwirio bod eich amgylchiadau personol yn gymwys ac yn bodloni amodau’r Cynllun Prynu Cartref.

Os yw eich cais yn gymwys, byddwch yn derbyn cynnig benthyciad mewn egwyddor gan Gyngor Gwynedd

  • Byddwn yn cadarnhau’r uchafswm pris prynu ar gyfer eiddo.
  • Gallwch ddechrau chwilio am eiddo ar y farchnad agored.
  • Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i eiddo, bydd angen cytuno ar bris gyda’r gwerthwr a chadarnhau manylion yr eiddo gyda ni.

Bydd Cyngor Gwynedd yn gwirio fod yr eiddo yn gymwys ar gyfer y cynllun.

  • Bydd angen i chi gwblhau cais llawn am forgais a darparu copi o’r cynnig morgais.
  • Bydd angen trefnu prisiad o’r eiddo gan Syrfëwr RICS a rhannu copi o’r adroddiad gyda Chyngor Gwynedd.

Bydd Cyngor Gwynedd yn gwirio’r cais llawn a phenderfynu rhoi cynnig ffurfiol.

Ar ôl derbyn manylion yr eiddo, bydd Cyngor Gwynedd yn asesu’r cais cyflawn ac, os yn gymwys, bydd y Cyngor yn gwneud cynnig ffurfiol am fenthyciad.

Os ydych yn dymuno parhau:

  • Bydd angen penodi cyfreithiwr i weithredu ar eich rhan.
  • Bydd y cyfreithiwr yn delio gyda phrynu’r eiddo a’r dogfennau cyfreithiol perthnasol.

Bydd Cyngor Gwynedd yn cyfnewid dogfennau cyfreithiol ac yn trosglwyddo’r cyllid er mwyn i chi gwblhau’r pryniant.

Ar ddiwrnod cwblhau, bydd y pryniant wedi'i gwblhau a gallwch gasglu'r allweddi i'ch cartref newydd.

Gweld mwy o fanylion am y Cynllun Prynu Cartref a’r meini prawf