Ydwi’n debygol o fod yn gymwys ar gyfer benthyciad Prynu Cartref?
Cam 1
Mae’r Cynllun Prynu Cartref yn cynnig benthyciadau ecwiti er mwyn i ymgeiswyr cymwys fedru prynu tŷ oddi ar y farchnad agored.
Mae’r gyfrifiannell hon wedi ei dylunio er mwyn rhoi syniad os yw eich sefyllfa ariannol yn debygol o olygu eich bod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Prynu Cartref cyn mentro i wneud cais ar gyfer benthyciad.
Cliciwch ar y botwm ‘Cychwyn’ i gychwyn y cyfrifiannell:
Ni chesglir unrhyw wybodaeth bersonol wrth ddefnyddio’r gyfrifiannell.
Noder: Canllaw bras yn unig yw’r gyfrifiannell ac nid yw'n gwarantu y byddwch yn gymwys i dderbyn benthyciad Prynu Cartref. Am fanylion llawn am y cynllun a sut i gysylltu â ni,
ewch i’r dudalen: Cynllun Prynu Cartref Gwynedd
Cam 2
COFIWCH: Cynllun yw hwn i bobl sy’n methu prynu tŷ o’r farchnad agored heb gymorth.
I fod yn gymwys mi fyddwch yn brynwyr tro cyntaf, neu’n byw mewn cartref sy’n anaddas i’ch anghenion (e.e. mae’r tŷ yn orlawn), a chwrdd â’r meini prawf canlynol:
- Rhaid bod dros 18 oed.
- Cysylltiad lleol: rhaid bod gennych o leiaf 5 mlynedd o gysylltiad lleol â’r ardal lle rydych eisiau byw (er enghraifft, wedi byw yn yr ardal am gyfnod o 5 mlynedd yn olynol).
- Nid ydych yn gallu prynu cartref sy'n diwallu eich anghenion heb gymorth gan Gynllun Prynu Cartref Gwynedd.
- Os yn berchen ar gartref, rhaid i chi ddangos nad yw'n diwallu eich anghenion neu na allwch chi fforddio aros ynddo – er enghraifft, os na allwch chi fforddio cartref sydd o'r maint cywir i'r teulu ar y farchnad agored neu drwy unrhyw gynllun perchnogaeth arall.
- Mae'r cynllun wedi ei gynllunio i helpu pobl na allant brynu cartref addas heb gymorth, nid ar gyfer y rhai sydd eisiau uwchraddio neu ostwng costau eu morgais.
- Rhaid ichi fedru cael morgais a blaendal ar gyfer yr eiddo rydych yn dymuno prynu.
Cam 3.1
Faint o ystafelloedd gwely sydd eu hangen arnoch chi? (Caniateir eiddo o hyd at 1 ystafell wely yn fwy na maint yr aelwyd, er enghraifft tŷ 3 ystafell wely i aelwyd sy’n cynnwys 2 person).
Cam 3.2
Ym mha gymuned yda chi’n edrych i fyw ynddi?
Cam 3.4.2
Faint yw eich blaendal? Bydd ymgeisydd angen o leiaf 5% o flaendal.
Cam 3.4.3
Faint o gynilon arall neu ecwiti mewn eiddo arall sydd gennych chi?
Cam 3.4.4
Faint yw incwm gros eich aelwyd? Noder, incwm gros o £75,000 yr aelwyd yw'r uchafswm ar gyfer y cynllun hwn.
Incwm o £
Cam 3.4.5
Beth yw gwerth y math o dŷ rydych ei angen yn eich cymuned? Mae’n werth i chi gymharu prisiau mwy nag un tŷ yn y gymuned a nodi cyfartaledd yma.Uchafswm gwerth eiddo y gellir ei brynu - £300,000 (£350,000 mewn rhai achosion eithriadol).
Cam 3.4.1
Faint yw incwm gros eich aelwyd? Noder, incwm gros o £75,000 yr aelwyd yw'r uchafswm ar gyfer y cynllun hwn.
Faint £
Cam 3.4.2
Faint yw eich blaendal? Bydd ymgeisydd angen o leiaf 5% o flaendal.
Cam 3.4.3
Faint o gynilon arall neu ecwiti mewn eiddo arall sydd ganddoch chi ?
Cam 3.4.4
Beth yw gwerth y math o dŷ rydych ei angen yn eich cymuned? Mae’n werth i chi gymharu prisiau mwy nag un tŷ yn y gymuned a nodi cyfartaledd yma. Uchafswm gwerth eiddo y gellir ei brynu - £300,000 (£350,000 mewn rhai achosion eithriadol).
Mae'n debyg nad ydych chi'n gymwys
Nid ydych yn debygol o fod yn gymwys.
Ar sail y wybodaeth ariannol sydd wedi ei fewnbynnu mae’n ymddangos nad oes angen cymorth y cynllun arnoch.
Dal angen cefnogaeth?
Mae’r wybodaeth rydych wedi mewnbynnu yn awgrymu na fyddwch yn gymwys. I drafod eich amgylchiadau a’ch anghenion ag i wirio os oes cynllun arall a all fod yn addas yna cysylltwch â Tai Teg: 03456 015 605 / info@taiteg.org.uk
Mae'n debyg nad ydych chi'n gymwys
sgrin 8 - angen mwy na 50% o fenthyciad
Nid ydych yn debygol o fod yn gymwys.
Ar sail y wybodaeth rydych wedi fewnbynnu rydych angen benthyciad sydd gwerth mwy na 50% yr eiddo. Yr uchafswm y gellir ei fenthyg yn ddibynnol ar amgylchiadau yw 50% o werth yr eiddo

Mae'n bosib eich bod chi'n gymwys
Mae’n bosib eich bod yn gymwys am gymorth trwy’r cynllun.
Ar sail y wybodaeth rydych wedi mewnbynnu mae’n bosib eich bod yn gymwys ar gyfer cefnogaeth y cynllun.
PWYSIG: Mae cywirdeb y canlyniad yma’n ddibynnol ar gywirdeb yr wybodaeth rydych wedi mewnbynnu am eich sefyllfa ariannol a phrisiau tai sy’n cwrdd â’ch anghenion. I wneud cais ar gyfer benthyciad bydd angen i chi gwblhau asesiad ariannol a darparu tystiolaeth o incwm a gwariant.
Beth nesaf?
Ewch ati i gofrestru ar gyfer y cynllun drwy fynd i: Linc i ymgeisio
Neu, i gael mwy o wybodaeth am sut mae benthyciad Prynu Cartref yn gweithio ewch i: Cynllun Prynu Cartref Gwynedd.