Beth yw Cynllun Prynu Cartref Gwynedd?

Mae’r cynllun hwn yn cynnig benthyciadau ecwiti er mwyn i ymgeiswyr cymwys fedru prynu tŷ oddi ar y farchnad agored.

Mae’r swm y gallwch ei fenthyg yn gysylltiedig â’ch sefyllfa ariannol a’r uchafswm rydych yn gallu fenthyg drwy forgais.

Os ydych yn cwrdd â meini prawf y cynllun bydd Cyngor Gwynedd yn cadarnhau’r swm y gallwch ei fenthyg, os o gwbl, yn dilyn asesiad ariannol. Gallwn fenthyca gwerth rhwng 10% a 50% o werth eiddo a bydd y benthyciad yn cael ei osod fel arwystl ar yr eiddo.

Nid yw’r cynllun hwn ar gyfer pobl sy’n gallu fforddio prynu cartref sy’n addas ar gyfer eu hanghenion, nac ar gyfer y rheini sy’n byw mewn cartref digonol ond sy’n dymuno symud i gartref drutach.

Cynllun yw hwn sydd wedi ei anelu tuag at bobl sy’n methu prynu tŷ oddi ar y farchnad agored heb gymorth.

I fod yn gymwys mi fyddwch yn brynwyr tro cyntaf, neu’n byw mewn cartref sy’n anaddas i’ch anghenion (e.e. gormod o bobl yn byw yn y tŷ) a chwrdd â’r meini prawf canlynol:

  • Rhaid bod dros 18 oed.
  • Cysylltiad lleol: rhaid bod gennych o leiaf 5 mlynedd o gysylltiad lleol â’r ardal lle rydych eisiau byw (er enghraifft, wedi byw yn yr ardal am gyfnod o 5 mlynedd yn olynol).
  • Os yn berchen ar gartref, rhaid i chi ddangos nad yw'n diwallu eich anghenion neu na allwch chi fforddio aros ynddo – er enghraifft, os na allwch chi fforddio cartref sydd o'r maint cywir i'r teulu ar y farchnad agored neu drwy unrhyw gynllun perchnogaeth arall.
  • Nid ydych yn gallu prynu cartref sy'n diwallu eich anghenion heb gymorth gan Gynllun Prynu Cartref Gwynedd.
  • Rhaid ichi fedru cael morgais a blaendal ar gyfer yr eiddo rydych yn dymuno ei brynu.

Mae’r benthyciad ecwiti yn cael ei gyfrifo drwy gymharu'r hyn rydych yn gallu fforddio drwy forgais a blaendal yn erbyn prisiau eiddo yn y gymuned rydych yn dymuno byw ynddi. Gall y benthyciad yma fod hyd at werth 50% o bris eiddo.

Er enghraifft, os yw prisiau tai dwy ystafell wely mewn ardal yn £200k ond fod ymgeisydd cymwys ond yn gallu fforddio blaendal o £10,000 a morgais o £150,000, gallwn fenthyg £40,000 (neu 20% o werth eiddo yn yr enghraifft yma) ar ffurf benthyciad ecwiti.

Uchafswm gwerth eiddo y gellir ei brynu yw £300,000 (£350,000 mewn rhai achosion eithriadol).

Cyn penderfynu prynu eiddo, dylech gymryd cyngor ariannol annibynnol i gael syniad clir o gostau a rhwymedigaethau sydd ynghlwm wrth berchen ar gartref.

Mae’r gyfrifiannell hon wedi ei dylunio er mwyn rhoi syniad os yw eich sefyllfa ariannol yn debygol o olygu eich bod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Prynu Cartref cyn mentro i wneud cais ar gyfer benthyciad.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud cais am y cynllun ddefnyddio’r gyfrifiannell fel cam cyntaf cyn cysylltu â’r Cyngor:

Cyfrifiannell Cynllun Prynu Cartref Gwynedd

Pan fyddwch yn gwerthu’r cartref a brynwyd gyda chymorth y cynllun hwn, bydd rhaid i chi ad-dalu’r benthyciad.

Nid oes unrhyw log na thaliadau credyd eraill ar y benthyciad, felly nid oes cyfradd ganrannol flynyddol (APR) yn berthnasol. Fodd bynnag, mae’r swm y byddwch yn ei ad-dalu yn gysylltiedig â gwerth eich cartref pan gaiff ei werthu. Os yw gwerth eich cartref wedi gostwng, bydd y swm i’w ad-dalu yn gostwng hefyd. Os yw gwerth eich cartref wedi cynyddu, bydd y swm i’w ad-dalu yn cynyddu.

Er enghraifft, os wnaethoch chi fenthyg 20% o werth yr eiddo, bydd angen i chi ad-dalu swm sy’n cyfateb i 20% o werth yr eiddo pan gaiff ei werthu. Bydd prisiad annibynnol yn cael ei wneud ar yr eiddo er mwyn sefydlu’r swm y bydd rhaid i chi ei ad-dalu.

Byddwn hefyd yn cadw’r hawl i gael y cyfle cyntaf i brynu’r eiddo neu enwebu rhywun i brynu’r eiddo.

 

Sut mae cyflwyno cais?

Am fwy o wybodaeth am y broses o gyflwyno cais, ewch i:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cynllun, cysylltwch â ni: